AC Arfon yn herio'r Prif Weinidog am ddiffyg cynnydd gyda gwelliannau i'r A470

Sian_Senedd.JPG

Yn y Senedd yn ddiweddar, mynegodd Aelod Cynulliad Arfon ei siom yn niffyg cynnydd mewn gwelliannau arfaethedig i’r A470. Mae’r A470 yn llwybr trafnidiaeth allweddol sydd yn cysylltu’r gogledd a de Cymru.

Mewn dadl gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, dywedodd Siân Gwenllian,

‘Mae unrhyw un sydd yn teithio’n rheolaidd rhwng y de a’r gogledd yn gwybod nad yw’n fater pleserus, a dweud y lleiaf.

Yn anffodus, y ffordd fwyaf ymarferol o deithio ar draws Cymru i nifer fawr o bobl ydy mewn car, ac nid oes gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i’r brif ffordd sy’n cysylltu de a gogledd ein gwlad ers dyddiau Ieuan Wyn fel Dirprwy Brif Weinidog’.

Heriodd yr Aelod Cynulliad y Llywodraeth Lafur i osod cynlluniau manwl ar gyfer y gwelliannau,

‘Pa waith sydd wedi cael ei wneud gan eich Llywodraeth chi i ddadansoddi pa welliannau sydd eu hangen ar yr A470 er mwyn gwella’r llwybr trafnidiaeth allweddol yma sydd yn cysylltu ein cenedl ni?

Ac os mai’r ateb ydy ‘dim’ neu ‘ddim llawer’, a fedrwch chi ymrwymo i gynnal yr astudiaeth yma ac i gostio unrhyw welliannau sydd eu hangen yn llawn?

Mi fentraf i ein bod ni’n sôn am swm cymharol fychan o gymharu â’r buddsoddiad sy’n cael ei fwriadu ar gyfer yr M4’.

Ymatebwyd y Prif Weinidog trwy nodi’r gwelliannau i’r gwasanaeth trên, yn benodol y ffaith nad oedd rhaid newid yn Amwythig rhagor, wrth deithio rhwng y de a’r gogledd. Cyfeiriwyd at y gwasanaeth awyr, sydd yn teithio o Fali yn Ynys Môn i’r brifddinas dwywaith pob dydd. Dywedodd bod gwelliannau sylweddol i’r ffordd yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys ardal y Cross Foxes, ger Dolgellau.

Yn dilyn y ddadl yn y Senedd, cafodd cwestiwn ysgrifenedig ei yrru gan Siân Gwenllian i Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Seilwaith, Ken Skates, yn pwyso am fwy o wybodaeth am gynlluniau’r dyfodol. Nododd yr ymateb bod astudiaeth corridor ar waith i ddynodi'r ardaloedd penodol sydd yn peri problem. Fodd bynnag, nid oedd manylion am unrhyw gynlluniau penodol neu amserlenni i gwblhau’r gwaith.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd