AC Arfon yn codi ymwybyddiaeth am diwbiau bwydo gyda Mam leol a’i mab bach

DATGANIAD_-_PRESS_RELEASE_-_wythnos_ymwybyddiaeth_bwydo_tiwb_-_tube_feeding_awareness_week_-_PLAID_ARFON.jpg

A hithau’n Wythnos Bwydo Drwy Diwb aeth AC Arfon Sian Gwenllian i gwrdd â theulu sydd yn hen gyfarwydd â’r broses arbenigol yma o fwydo er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut beth ydi byw efo plentyn neu oedolyn sy’n ddibynnol ar y dull yma o fwyta.

Mae Archie John Ngaia-Williams o Lanrug yn flwydd a hanner oed erbyn hyn ac fe anwyd o gyda chyflwr prin iawn o’r enw Syndrom Ohtahara sy’n golygu ei fod cael nifer fawr o ffitiau epileptig sydd yn effeithio ar ei ymenydd.

“Roedd o’n cael ffitiau wrth imi ei eni o,” meddai Katie Williams ei fam. “Mi aeth o’n sal efo Sepsis pan roedd o’n wythnos oed ac ar ôl hynny mi wnaeth o stopio anadlu ac roedd o ar ventilator yn Ysbyty Arrow Park. Ond mi ddaru o gwffio’n galed iawn a dod nol o hynny, ac mae o’n hogyn bach hapus iawn erbyn hyn, yn mwynhau mynd am dro a gwrando ar leisiau gwahanol. Dydi o ddim yn gweld llawer iawn ond mae o’n mwynhau mwytha a sylw ac mae o’n adnabod lleisiau pobol ac yn gwenu a chwerthin.”

Mae Archie yn cael ei fwydo gyda llefrith arbennig drwy diwb yn ei drwyn sydd yn mynd i lawr i’w fol, ac mae Katie a’i mam Sarah Evans wedi cael hyfforddiant ynglŷn a sut i wirio bod y tiwb yn y lle iawn a’i fod yn lân.

Meddai Sian Gwenllian, “Mae gofalu am rywun sydd yn cael eu bwydo fel hyn yn dipyn o gyfrifoldeb a does na ddim llawer o ddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn mae o’n ei olygu i aelodau o’r teulu. Cafwyd yr wythnos codi ymwybyddiaeth cynta yn ôl yn 2011 er mwyn hyrwyddo manteision tiwbiau bwydo fel ffordd o arbed bywydau, ac mae’n bwysig hefyd bod pobol yn y gymuned yn deall beth yw’r rhesymau meddygol dros fwydo drwy diwb a beth yw’r heriau sy’n wynebu gofalwyr.”

Mae Katie Williams wedi bod yn codi ymwybyddiaeth yr wythnos hon ar y cyfryngau cymdeithasol fel mae nifer o’i ffrindiau ar draws y byd sydd gan blant sy’n bwydo fel hyn.

“Dim ond 250 o blant a phobol sydd wedi cael deiagnosis ffurfiol o Syndrom Ohtahara ac mae’n braf cael sgwrsio ar Facebook efo rhieni eraill sydd efo plant sy’n debyg i Archie. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth achos pan dwi allan efo Archie mae pobol yn sbio ac weithiau yn dod ata’i i ofyn pam bod y tiwb genno fo. Do’n i’m yn gwbod dim byd am fwydo drwy diwb cyn imi gael Archie felly dwi’n meddwl bod hi’n bwysig ein bod ni i gyd yn dysgu gan ein gilydd. Mae hefyd yn bwysig bod plant sydd yr un oed â Archie yn gwbod pam bod y tiwb genno fo, ac os ydi oedolion yn fwy ymwybodol mi fydd hi’n haws iddyn nhw esbonio wrth eu plant.”

Meddai Sian Gwenllian, “Roedd hi’n braf iawn cael cwrdd â Archie bach a’i deulu. Mae o’n hogyn bach bodlon iawn a’r bwydo drwy diwb yn amlwg yn ei siwtio fo ac yn saffach iddo fo gan nad ydio’n gallu codi ei ben nag eistedd i fyny. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn ymwybodol o blant a phobol sydd yn byw eu bywydau yn wahanol i ni am resymau meddygol, a dwi’n diolch i Katie a’i theulu am dynnu fy sylw i at yr wythnos bwysig yma.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd