Cymhorthfa arbennig i helpu pobl lleol â biliau dŵr

Gallai cwsmeriaid arbed hyd at £250 ar eu biliau dŵr.

Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn cynnal cymhorthfa arbennig ym Mangor ddydd Gwener yma (25.11.16) sy’n rhoi cyfle i etholwyr drafod ffyrdd posib o arbed arian ar eu biliau dŵr.

Mae Hywel Williams AS yn annog gweithwyr ar gyflogau isel yn ei etholaeth i fanteisio ar dariff HelpU gan Ddŵr Cymru, sydd wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer cartrefi gyda lefel incwm llai na £15,000 y flwyddyn.

Cynhelir y gymhorthfa arbennig yng Nghanolfan MATRA Maesgeirchen, Bangor ar Ddydd Gwener Tachwedd 25, 2016 rhwng 4.00-6.00yp.

Bydd cymhorthfa tebyg yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Noddfa Caernarfon gyda Siân Gwenllian AC ar ddydd Llun Tachwedd 28 rhwng 4.00-6.00yp.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Mae Dŵr Cymru'n dweud y gallai miloedd o gwsmeriaid elwa o dariff HelpU-a gallai rhai o'r bobl hyn haneru eu biliau dŵr a charthffosiaeth blynyddol.”

“Y cyfan sydd ei angen i'r bobl ei wneud yw cysylltu â'r cwmni, a chânt gymorth i newid i'r tariff HelpU.”

“Gallai llawer iawn o bobl yn yr etholaeth yma elwa o’r fenter hon, a hoffwn annog pobl i ystyried a ydynt yn gymwys, ac i gysylltu â'r cwmni ar unwaith os ydyn nhw neud ddod i’m gweld yn y gymhorthfa i drafod ymhellach”

“Rydyn ni'n gwybod bod biliau dŵr llawer o bobl yn fwy na phump y cant o incwm eu haelwyd - ac felly mae hi'n gallu bod yn anodd eu talu.”

“Mae arbedion mawr ar gael i bobl ag incwm isel. Os nad ydych chi'n gymwys eich hun, efallai eich bod chi'n adnabod rhywun arall sy'n gymwys. Os felly, lledaenwchwch y gair, a rhannwch y wybodaeth werthfawr yma â nhw.”

Mae 60,000 o gwsmeriaid eisoes yn elwa ar dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd