Am Plaid Cymru

Nod Plaid Cymru yw gweithio ers lles a chefnogi pob cymuned ar hyd a lled Cymru, gan weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn San Steffan i gael y fargen orau i’n cymunedau, a gofalu fod pobl o bob cwr o Gymru yn cael llais cryf yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanynt, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Manifesto_ENG.png

Etholiad San Steffan 2015

I ddod i wybod mwy am bolisïau a maniffesto Plaid Cymru ar gyfer Etholiad 2015, cliciwch ar y dolenni isod.

Maniffesto Plaid Cymru

Mae’r maniffesto yn gosod allan weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer cymunedau Cymru am Etholiad San Steffan, a sut y gallwn oll weithio gyda’n gilydd i gael y fargen orau i Gymru.

Polisïau Plaid Cymru

Mae’r ddolen hon yn rhoi mwy o wybodaeth am bolisïau Plaid Cymru ar gyfer Etholiad San Steffan, gan osod allan ein prif amcanion a’r hyn yr ydym yn sefyll drosto o ran cefnogi ein cymunedau.

Neu ewch i wefan Plaid Cymru ar www.plaid.cymru/

 

Gallwch hefyd gysylltu â Phlaid Cymru:

Cyfeiriad: Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Cwrt Anson, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL

Ffôn: 029 2047 2272

ebost: [email protected] 

Neu dilynwch Plaid Cymru ar:

Twitter-FB.png

Twitter & facebook www.facebook.com/PlaidCymruWales

 

 


Dangos 1 ymateb

  • Plaid Cymru Arfon
    published this page 2015-04-14 13:05:37 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd