Aelod Cynulliad Arfon yn galw am leoli'r Awdurdod Cyllid newydd yng Nghaernarfon

Finance_Authority_-_Sian___Hywel.JPG

Yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050 mae Sian Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon dros Blaid Cymru, wedi galw ar i’r Prifweinidog Carwyn Jones wneud datganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd y targed hwnnw.

Dywedodd Siân Gwenllian bod creu bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn hollbwysig os am gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg a chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, a holodd gwestiwn am fwriadau’r Llywodraeth i’r perwyl hwn yn ystod Cwestiynau’r prif weinidog yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Galwodd yn benodol ar Carwyn Jones i ystyried Caernarfon fel lleoliad i’r awdurdod cyllid arfaethedig a fydd yn gweinyddu’r pwerau trethu newydd sy’n dod i Gymru, gan y byddai’n gyfle i greu swyddi i bobl ddwyieithog.

“Mi fyddai sefydlu’r awdurdod cyllid mewn tref fel Caernarfon yn hwb mawr i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol,” meddai Siân Gwenllian.

“Rydym angen swyddi o ansawdd uchel ar hyd y gogledd-orllewin, ac mi fyddai sefydlu’r awdurdod cyllid newydd yn yr ardal honno yn dangos ymrwymiad go iawn ar ran y llywodraeth i ffyniant economaidd ac ieithyddol yr ardaloedd rheiny.”

Dywedodd Carwyn Jones eu bod eisoes wedi ymgynghori ar weledigaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac y bydd y ddogfen derfynol yn rhoi sylw i’r berthynas rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd.

Yn ôl Siân Gwenllian mae nifer o resymau dros ddod a’r awdurdod cyllid i Gaernarfon, ac un o’r rheiny yw’r adeilad hanner gwag sydd gan Lywodraeth Cymru yn y dref yn barod.

“Mi fyddai tref Caernarfon yn ddelfrydol fel cartref i’r datblygiad hwn gan fod adeilad pwrpasol yno yn barod i’w gartrefu.

Mi fyddai cael yr awdurdod cyllid yng Nghaernarfon yn dod a swyddi da i boblogaeth ddwyieithog, yn hybu’r economi leol ac yn gyfle i feithrin sgiliau yn lleol er mwyn diwallu anghenion yr awdurdod wrth iddi ddatblygu.”
Ond tra bod Carwyn Jones yn cytuno bod Caernarfon yn lleoliad sydd angen ei ystyried a’i bod yn bwysig edrych tu allan i Gaerdydd wrth leoli datblygiadau o’r fath, awgrymodd yn ei ateb i gwestiwn Siân Gwenllian yn y Senedd nad oedd yn gwbl hyderus bod y sgiliau angenrheidiol ar gael “yn yr ardaloedd llai trefol.”

Meddai Siân Gwenllian, “Mae’r ymateb yma gan y Prifweinidog yn anfoddhaol, gan mai cynllunio ac uchelgais yw amod llwyddo, ac mae’n bwysig nodi bod Adran Fusnes llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor a allai gyd-weithio efo’r ysgolion lleol i ddatblygu’r math o sgiliau sydd ei angen ar yr awdurdod petai hi’n dod i’r gogledd.

Mae’r sgiliau perthnasol yn bodoli eisoes i raddau helaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y gogledd, a gyda rhagor o gefnogaeth gallwn greu sgiliau newydd a gwneud y defnydd gorau o’r rhai sydd yma’n barod.

Mi fyddai hyn oll yn arwain at hwb economaidd i ardal sydd wir angen hynny, a gwneud camau breision iawn ar y daith at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.