Aelod Cynulliad yn herio penderfyniad “di-synnwyr” Llafur Bae Caerdydd

Sian___Hywel_-_Awdurdod_Cyllid__Revenue_Authority.JPG

 

''Mae'n ymddangos bod Llafur ym Mae Caerdydd yn ddigon hapus i barhau i freintio eu milltir sgwâr eu hunain, gan anwybyddu anghenion gogledd Cymru." Siân Gwenllian

Yn dilyn ei siom yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener mai Trefforest fyddai lleoliad Awdurdod Cyllid newydd Cymru - 10 milltir yn unig o Gaerdydd - dywed Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian fod y penderfyniad yn arbennig o ddisynnwyr o gofio holl addewidion Llafur i weithio ar gau'r rhaniad economaidd rhwng y gogledd a'r de.


Medd Siân Gwenllian, "Mae'r Blaid Lafur yma yng Nghymru ac yn San Steffan wedi dweud tair gwaith rŵan eu bod yn awyddus i weld cyfleoedd economaidd yn cael eu gwasgaru tu hwnt i Gaerdydd a Llundain. Mae Ken Skates a Carwyn Jones wedi gwneud sylwadau i'r perwyl yn y Senedd, ac mae'n hynod eironig bod Llafur ym Mae Caerdydd wedi troi'u trwyn ar ogledd Cymru fater o oriau cyn i Ganghellor Cysgodol San Steffan John McDonnell ddatgan bod y Blaid Lafur yn rhoi addewid y byddan nhw'n rhoi diwedd ar y rhaniad gogledd-de drwy gyflwyno cyfreithiau newydd yn gwarantu na fyddai rhagor o wahaniaethu cyllidol rhwng rhanbarthau a'i gilydd. Unai mae Carwyn yn canu o lyfr gwahanol, neu mae o'n profi unwaith yn rhagor bod yr hyn mae Llafur yn ei ddweud a'r hyn mae Llafur yn ei wneud yn ddau beth gwahanol."


Chwe wythnos yn ôl, mewn ymateb i awgrym Adam Price o Blaid Cymru y dylai'r Adran Gyllid gael ei lleoli yng ngogledd Cymru, mynegodd Gweinidog y Cabinet Ken Skates ei awydd i "rannu cyfleoedd ar draws Cymru."


Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd fis Ionawr, dywedodd Siân Gwenllian wrth Carwyn Jones y byddai Caernarfon yn lleoliad delfrydol i'r Awdurdod Cyllid oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru adeilad yn y dref eisoes sy'n sefyll yn hanner gwag, a bod gan boblogaeth y dref a'r cymunedau cyfagos y sgiliau priodol i gynnig gwasanaeth yr Awdurdod yn ddwyieithog. Ymateb y Prif Weinidog oedd y byddai ei swyddogion yn ystyried y mater.


"...Rwyf yn deall pan fo corff newydd yn cael ei chreu - a honno'n gorff cyhoeddus hefyd - y dylem edrych tu hwnt i Gaerdydd a hwyrach tu hwnt i'r de, i weld a oes modd lleoli'r corff rhywle arall yng Nghymru," meddai Carwyn Jones ar y pryd.


Ond nid felly ddigwyddodd pethau, a bu cyhoeddiad ddydd Gwener bod yr Awdurdod Cyllid yn mynd i dde Cymru, gwta ddeng milltir o Gaerdydd. Mae'r penderfyniad wedi bod yn siom anferth i bobl Arfon ac i ogleddwyr yn gyffredinol, sydd yn gweld y datganiad fel clec arall i'r ardal ar adeg pan fo amgylchiadau economaidd cymunedau gwledig yn gwaethygu.


"Dros y penwythnos mae pobol wedi bod yn mynegi eu hanghrediniaid bod y ffasiwn benderfyniad wedi ei wneud," meddai Siân Gwenllian. "Roedd Carwyn Jones wedi gwneud synau cadarnhaol iawn am roi ystyriaeth go iawn i ogledd Cymru y tro yma, ac mae ethos cyffredinol ei blaid yn gwneud ymrwymiadau - honedig - i gau'r rhaniad rhwng y de cyfoethocach a'r gogledd mwy difreintiedig. Mae John McDonnell wedi dweud y bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn symud grym a golud o'r ardaloedd breintiedig yn y de-ddwyrain yn ôl i weddill y DU, ond mae'n ymddangos bod Llafur ym Mae Caerdydd yn ddigon hapus i barhau i freintio eu milltir sgwâr eu hunain, gan anwybyddu anghenion gogledd Cymru."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.