AC & AS Arfon yn diolch i bobl yr etholaeth am eu cyfraniadau i fanciau bwyd Caernarfon a Bangor

Sian_Gwenllian_AC-AM_ac_Alun_Roberts.jpg

Dyma’r ail flwyddyn i Plaid Cymru Arfon gynnal ymgyrch y Calendr Adfent Tu Chwith, sef cynllun sy’n annog pobl i roi i’r anghennus bob dydd yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Y syniad ydi bod pobl yn rhoi un eitem o fwyd mewn bocs bob dydd yn ystod yr adfent, ac yna yn ei gyflwyno i’w banc bwyd lleol cyn y Nadolig. Er mwyn hwyluso hynny mae Plaid Cymru Arfon wedi gwneud eu swyddfa nhw yn fan casglu i bobl ddod a’u nwyddau, ac mae aelodau a chynghorwyr y Blaid yn Arfon wedi bod yn casglu o gartrefi hefyd. Cyflwynwyd yr holl nwyddau i fanciau bwyd Caernarfon a Bangor ar y dydd Gwener cyn y Nadolig gan Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS.

Meddai Sian Gwenllian: “Mae pobol Arfon wedi ymateb yn wych unwaith eto i’n hymgyrch ni ym Mhlaid Cymru Arfon i sicrhau nad yw’r banciau bwyd yn mynd yn brin o nwyddau y Nadolig yma, ac fe rannwyd 200kg o fwyd rhwng y ddau banc bwyd sy’n lleol i ni. Mae banciau bwyd Caernarfon a Bangor yn brysur drwy’r flwyddyn wrth gwrs, ond mae teuluoedd ar incwm isel yn ei chanfod hi’n arbennig o anodd i ddal dau ben llinyn ynghyd yr adeg yma o’r flwyddyn, gan bod disgwyl iddyn nhw dalu am bethau ychwanegol. Mae’r tywydd oer yn amlwg yn ffactor hefyd a nifer fawr o bobol yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyd. Mae’n sefyllfa dorcalonnus a bod yn hollol onest.”

Mae’r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu’n flynyddol, a nifer fawr o deuluoedd sydd mewn gwaith yn gorfod eu defnyddio. Cyflogau isel a chytundebau sero awr sydd yn gyfrifol yn aml iawn gyda phobl angen bwyd i’w cynnal tan bod y cyflog nesaf yn cyrraedd. Yn ol y Trussel Trust fe roddwyd 208,956 o barseli bwyd i blant rhwng Ebrill a Medi eleni. Dywedodd Gwyn Williams o Fanc Bwyd Caernarfon:

“Rydym yn gweld cynydd bob blwyddyn yn y bobol sydd angen defnyddio’r banc bwyd, a ‘dan ni’n lwcus bod haelioni pobol yn cynyddu efo’r angen. Oedi mewn budd-daliadau ydi un o’r achosion mwyaf cyffredin sy’n dod a phobol atom ni, ac mae dros 50% o’r bobol rydym ni’n eu bwydo yn dod yma oherwydd sanctiynnau ar eu budd-dal neu oherwydd newid mewn amgylchiadau lle maen nhw’n gallu bod heb fudd-dal am bump i chwe wythnos mewn rhai achosion.”

Meddai Hywel Williams: “Mae’n sefyllfa drist iawn bod angen banciau bwyd o gwbwl ac maen nhw wedi dod yn ‘norm’ erbyn hyn, sydd yn dweud llawer am yr anghyfartaledd dybryd sydd yn ein cymdeithas. Fyddwn i ddim yn dymuno dychmygu beth fyddai hanes pobol anghennus ein cymunedau heb y ddarpariaeth yma a dwi’n diolch o waelod calon i’r rhai sydd wedi rhoi mor hael eto eleni, ac i wirfoddolwyr y banciau bwyd yng Nghaernarfon a Bangor.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd