Hywel a Siân yn cynnal cyfarfod brys â Chyngor Gwynedd i leisio pryderon ynghylch gwasanaethau bysiau lleol

MP_AM_Meeting_Cyngor_Gwynedd.jpg

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi cynnal cyfarfod brys gyda Chyngor Gwynedd er mwyn lleisio pryderon etholwyr ynghylch newidiadau i amserlen gwasanaethau bysiau lleol.

Mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr sy’n pryderu ynghylch y newidiadau sydd wedi arwain at leihad sylweddol yng ngwasanaethau bysiau mewn rhai cymunedau yn Arfon.

Codwyd pryderon penodol am wasanaethau yn Nyffryn Nantlle, Carmel, Fron, Penisarwaun, Deiniolen, Nebo, Groeslon a rhannau o Gaernarfon.

Sicrhawyd Hywel Williams a Siân Gwenllian bod y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i gynllunio ateb cynaliadwy tymor hir i’r broblem.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC,

'Dros yr wythnos ddiwethaf, mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â ni yn pryderu am newidiadau diweddar i'r amserlen bysiau lleol.'

'Yn sgil y pryderon hyn, fe wnaethom gyfarfod â Chyngor Gwynedd i drosglwyddo'r pryderon penodol sydd wedi codi yn dilyn cwtogi gwasanaethau penodol yn Arfon, gwasanaethau y mae llawer yn ddibynnol arnynt.’

'Mae'r sefyllfa wedi codi oherwydd bod un o brif ddarparwyr bysiau lleol wedi colli eu trwydded gweithredu. Er gwaethaf ymdrechion gan y Cyngor, nid oes digon o allu ar hyn o bryd gan ddarparwyr eraill i lenwi’r bwlch yn y gwasanaethau.'

'Rydym wedi cael sicrwydd nad yw'r toriadau i wasanaethau yn cael eu gyrru gan gymhellion ariannol. Mewn gwirionedd, rydym yn deall bod darparu gwasanaethau bysiau yng Ngwynedd bellach yn costio £400,000 ychwanegol i'r Cyngor.'

‘Rydym yn cydnabod gwaith y Cyngor i geisio llenwi’r bylchau yn y gwasanaeth yn dilyn terfynnu trwydded weithredu Express Motors ac rydym yn gweithio gyda’r Cyngor wrth i ni symud ymlaen at drefniant cynaliadwy.’ 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd