Ymateb Hywel Williams AS i enllib yng nghylchgrawn lol

llun_gwefan_hywel.jpg

Galwad am ymddiheuriad cyhoeddus a diamod.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Mae cylchgrawn Lol eleni yn fy enllibio.”

“Dywedir fy mod wedi annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i fomio Syria. Dywedir hefyd fy mod o’r farn dylai’r Deyrnas Unedig ymyrryd mwy mewn gwledydd eraill.”

“Mae’r datganiadau yma yn gelwydd. Byddai ymchwil o eiliadau ar Hansard ar lein, neu ar wefannau megis TheyWorkForYou a Google wedi dangos fy mod wedi siarad yn erbyn bomio Syria ac wedi pleidleisio’n gyson yn erbyn.”

(Dwy bleidlais ar Awst 30ain 2013. Pleidlais ar Ragfyr yr 2ail 2015).

“O ran ymyrryd mwy dramor, ac yn benodol ymyrryd rhyfelgar, rwyf wedi gwrthwynebu hynny yn gyson hefyd. Yn fwyaf diweddar disgrifiais y rhai sy’n gweld rôl o’r fath i Brydain wedi ymadael yr Undeb Ewropeiadd fel ‘imperial Walter Mittys’. (Dadl yn Westminster Hall Gorffennaf 19eg 2017).”

“Rwy’n gofyn felly i olygydd (ion) Lol a’r sawl a gyfranodd y darn i gyflwyno tystiolaeth a fyddai’n cadarnhau a chyfiawnhau eu honiadau.”

“Pe na byddent â thystiolaeth o’r fath, rwy’n gofyn iddynt ymddiheuro yn gyhoeddus ac yn ddiamod, ar ran y cylchgrawn ac yn eu henwau nhw eu hunain.”

“Rwy’n gofyn iddynt hefyd wneud cyfraniad i un o’r elusennau sy’n gweithio gyda phlant Syria.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd