AC Plaid Cymru yn gosod allan bedwar egwyddor ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn effeithiol

Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, datganodd AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, bedwar egwyddor ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn effeithiol.

Meddai Sian Gwenllian, sydd yn weinidog cysgodol Plaid Cymru dros lywodraeth leol:

“Mae gwasanaethau cyhoeddus o safon yn ganolog i ffyniant ein cenedl. Hwy yw’r glud sydd yn clymu ein cymdeithas ynghyd, a’r rhwyd ddiogelwch sydd yn cynnal y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae dyfodol y gwasanaethau hynny mewn perygl, a does dim modd gorbwysleisio difrifoldeb yr heriau sydd ymhlyg mewn llymder ar adeg pan fo demograffeg hefyd yn newid.

“Her arbennig sydd hefyd yn wynebu Cymru yw gofalu fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar y lefel briodol, yn llai cymhleth ac er mwyn sicrhau mwy o ddemocratiaeth, craffu a chydweithredu.

“Dyna pam y bydd gan Blaid Cymru bedwar egwyddor allweddol canolog y mae’n rhaid eu cadw mewn cof yn ystod y broses o ddiwygio llywodraeth leol.

Yn gyntaf, effeithiolrwydd – un o’r cwestiynau cyntaf y mae’n rhaid ei ofyn yw, pam ein bod yn diwygio? A rhaid ateb mai er mwyn gwella gwasanaethau i ddinasyddion Cymru y mae hyn. Yn ail, yr iaith Gymraeg – rhaid cryfhau cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o unrhyw ddiwygio. Iechyd yw’r trydydd egwyddor allweddol – rhaid i unrhyw ddiwygio ar lywodraeth leol gynnwys iechyd. Mae’n rhaid i ni symud tuag at system lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn wir yn rhoi’r unigolyn yn y canol a gwneud i ffwrdd â’r muriau gwneud rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd fel rhan o’r broses honno. Ac yn olaf, atebolrwydd – pwysigrwydd y cyswllt rhwng cynghorwyr wedi eu hethol yn ddemocrataidd a’u hetholwyr yw un o gryfderau mawr ein democratiaeth leol yng Nghymru. Ni ddylem fyth golli golwg ar gynnal a chryfhau democratiaeth leol. Bu hyn yn wastad yn greididol i werthoedd Plaid Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi mabwysiadu cynigion Plaid Cymru ar gyfer diwygio llywodraeth leol, ond ein gobaith yn awr yw y byddant hefyd yn mabwysiadu’r egwyddorion creiddiol hyn yn y broses sydd ar fin cychwyn.

“Mae’r heriau yn rhai mawr. Ond rwy’n hyderus, trwy gydweithio a chraffu llym gan Blaid Cymru, a’r ewyllys wleidyddol a’r arweiniad gan Lywodraeth Cymru – y gallwn gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus diwygiedig, cadarn a chynaliadwy i gwrdd ag anghenion pobl Cymru yn y dyfodol.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd