Mwynhewch Nadolig diogel yng Nghymru – Peidiwch â phrynu nwyddau trydan ffug!

Sian_Gwenllian_AM_-_Tackling_Counterfeit_Electrical_Goods.JPG

Yn ôl ymchwil gan yr elusen ddiogelwch blaenllaw, Electrical Safety First, mae 1 o bob 8[v] defnyddiwr yng Nghymru wedi gweld nwyddau trydan ffug ar werth yn eu hardal leol neu ar-lein. Ac mae'r rhan fwyaf yn methu gweld y gwahaniaeth rhwng nwyddau trydan go iawn a rhai ffug.

Nawr mae aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian, yn helpu'r Elusen i godi ymwybyddiaeth o beryglon nwyddau ffug ar ddechrau’r cyfnod siopa Nadolig, pan fod manwerthwyr digidol ac ar y stryd fawr yn cynnig amrywiaeth o gynigion arbennig a disgowntiau.

“Mae'r Nadolig bob amser yn gyfnod drud ac mae pob un ohonom yn awyddus i gael bargen, ond mae ymchwil Electrical Safety First yn dangos yn glir y dylai siopwyr wylio rhag nwyddau ffug – yn enwedig ar y we”, esboniodd Siân Gwenllian AC.

“Mae ymchwiliad newydd a gynhaliwyd gan yr Elusen yn dangos bod tua 298,000 o ddefnyddwyr yng Nghymru (sydd bron yn gyfwerth â phoblogaeth Caerdydd[v]) wedi gweld nwyddau trydan ffug ar werth yn eu hardal leol neu ar-lein. Ac mae 95,000 wedi prynu eitem drydan ffug yn ymwybodol, neu ar ddamwain, yn ystod y 12 mis diwethaf’’.

Dangosodd ymchwil Electrical Safety First hefyd nad yw bob amser yn hawdd i bobl adnabod nwydd ffug. Roedd tri chwarter o'r defnyddwyr yn y DU yn methu adnabod sythwyr gwallt GHD go iawn ac nid oedd 3 o bob 5 yn gallu adnabod gwefrydd Apple ffug[v] – a gyda'r cynnydd mewn siopa ar-lein, gall hyn fod yn fwy anodd fyth. Cyfaddefodd un o bob 5 siopwr ar-lein[v] nad oeddent yn ystyried dilysrwydd y nwydd, gyda dros hanner yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod yr eitemau trydan oedd ar werth ar-lein yn rhai go iawn.

Ac wrth gwrs, mae rhai pobl yn prynu nwyddau ffug yn fwriadol. Dywedodd un person o bob 6 a arolygwyd[v] y byddent yn ystyried prynu nwydd, hyd yn oed os oeddent yn amau ei fod yn ffug, os oedd yn rhatach na'r un gwreiddiol.
Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First:
“Rydym yn atgoffa defnyddwyr yng Nghymru y dylent gadw llygad am nwyddau trydan ffug peryglus ymhlith yr eitemau trydan go iawn sy'n gynigion arbennig.
Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer ohonom yn fwy tebygol o brynu eitem ffug os ydym ni dan bwysau i brynu erbyn dyddiad penodol, neu mewn ras i gael y fargen rataf.
Wrth ruthro fel hyn, mae'n hawdd camgymryd eitem ffug am nwydd go iawn. Gan fod 95,000 o bobl yng Nghymru wedi prynu nwyddau trydan ffug y llynedd, mae hon yn broblem sydd ar gynnydd.
Fel arfer mae eitemau ffug wedi eu gwneud yn wael, yn aml maent yn cynnwys darnau diffygiol neu mae cydrannau allweddol yn eisiau - gan effeithio ar eu hymarferoldeb a'u diogelwch - a gall hyn achosi tân neu sioc drydanol.”
Ychwanegodd Siân Gwenllian, “I wneud yn siŵr eich bod yn prynu'r ‘eitem go iawn’, mae Electrical Safety First wedi paratoi cyngor sy’n helpu pobl i adnabod nwydd trydan ffug. Ewch i: www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice/electrical-items/safe-shopping i gael rhagor o wybodaeth. Rwy'n annog pob un o'm hetholwyr i fwrw golwg ar y cyngor hwn cyn iddynt wneud eu siopa Nadolig.”

 

[i] 12% of Welsh adults said that they had seen counterfeit electrical products for sale near them or online (YouGov)
[ii] 12.06% of total population of over 18s in Wales (2,471,198) = 298,026
[iii] Censuswide 2016
[iv] Ibid
[v] Ibid


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd