AC Arfon yn ennill brwydr cyllid cefnogi pobl

Sian_Gisda_2.jpg

Mae AC Arfon Siân Gwenllian yn falch iawn bod trafodaethau cyllideb gyda Llywodraeth Cymru  wedi golygu na fydd toriadau i gyllideb y rhaglen Cefnogi Pobl am ddwy flynedd.

Bu pryderon y gallai arian a glustnodwyd i Cefnogi Pobl gael ei wario mewn meysydd eraill, ac fe fu Plaid Cymru’n lobio’n galed i amddiffyn y cyllid fel nad oedd gwasanaethau gwerthfawr yn cael eu hamharu neu eu torri.
“Mae’r rhaglen Cefnogi Pobol yn cefnogi 60,000 o bobl mwyaf bregus ein cymdeithas,” meddai Sian Gwenllian, “ac ar ôl tystio i lwyddiant rhai o’r cynlluniau yn fy etholaeth i sy’n cael eu cyllido gan y rhaglen hon, roeddwn yn benderfynol o frwydro i amddiffyn i cyllid.”
Elusen digartrefedd GISDA yw un o’r sefydliadau sy’n cael mantais o’r cyllid yma ac ni fyddant yn medru cynnig yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael ganddynt onibai am yr arian yma. Mae’r gwaith a wneir gan sefydliadau fel GISDA yn golygu bod modd ymyrryd yn gynnar i helpu oedolion a phobl ifanc bregus sy’n golygu bod llai o angen am wasanaethau argyfwng a chefnogaeth dwys yn ddiweddarach.
Meddai Sian Gwenllian, “Mae ymchwil yn dangos fod pob £1 sydd wedi ei fuddsoddi trwy’r cynllun Cefnogi Pobl werth £2.30 i wasanaethau eraill fel lleihau galw am wasanaethau brys a’r meddygfeydd lleol, osgoi’r angen am ofal drwy roi cefnogaeth lefel isel, osgoi’r angen am ddarparu gofal preswyl. Ac, wrth gwrs, yn osgoi digartrefedd.”
Dywedodd GISDA, “Rydym yn falch iawn na fydd toriadau i gyllid rhaglen Cefnogi Pobl am ddwy flynedd. Hoffem ddiolch i’n cynrychiolwyr lleol, Sian Gwenllian AC, Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS am eu cefnogaeth cyson wrth dynnu sylw at effaith prosiectau cefnogi pobl ar fywydau pob dydd pobol Gwynedd a thu hwnt.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd