Hywel Williams - AS Arfon
Hanes Personol.
Rwy'n byw yng Nghaernarfon, wedi byw yn Rhoslan ger Cricieth am flynyddoedd ond yn wreiddiol o Bwllheli. Rwy'n briod efo Dr Myfanwy Davies, academydd ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddom ddau o blant sydd yn yr ysgol gynradd. Mae gennyf hefyd dair merch sydd wedi tyfu fyny, 5 o wyrion a wyresau (6 o fis Mehefin).
Cefndir Proffesiynol a Gwleidyddol.
Gweithiais fel gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl yn Nwyfor am rai blynyddoedd cyn ymuno â staff Prifysgol Bangor yn 1985, yn arbenigo mewn addysgu gweithwyr cymdeithasol dwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi hyn rhedais fy musnes fy hun yn yr un maes cyn cael fy ethol fel AS Caernarfon yn 2001, ac yna AS Arfon yn 2010.
Prif Ddiddordebau.
Rwy'n gweld cynrychioli pobl Arfon o ran eu hachosion unigol yn rhan bwysig iawn o'm gwaith. Yn San Steffan rwyf wedi arbenigo mewn gwaith polisi cymdeithasol.
Rwyf wedi bod yn aelod o amryw o bwyllgorau seneddol gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cymreig, y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Pwyllgor Celf y Llefarydd a'r Pwyllgor Craffu ar Brexit.
Roeddwn am 10 mlynedd yn aelod o Banel Cadeiryddion Tŷ'r Cyffredin, yn cadeirio dadleuon pwyllgorau'r Tŷ ac ar ddau achlysur cofiadwy yn cadeirio'r Senedd gyfan yn y Prif Siambr.
Ar hyn o bryd rwy'n Gadeirydd y Grwp Aml-bleidiol ar Catalunya.
Ffaith ddiddorol amdanoch?
Yn y 1990au, am gyfnod roeddwn yn ysgrifennu deunydd comedi achlysurol i raglen ddychan ar S4C, ar ôl ennill cystadleuaeth sgriptio rhaglen dydachn radio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter