£80m yn cael ei wario ar feddygon locwm gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dros y tair blynedd diwethaf

Sian_Senedd.JPG

Mae prinder staff yn hybu'r achos dros ysgol feddygol i Ogledd Cymru yn ol Plaid Cymru.

Heddiw mae Sian Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, wedi herio polisi Llywodraeth Lafur Cymru o recriwtio staff y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd wrth i ffigyrau newydd ddangos bod 37% o'r holl swyddi meddygol gwag yn y wlad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Defnyddiodd Sian Gwenllian AM sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw i herio’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth Lafur am ei benderfyniad i wrthod cynigion i sefydlu ysgol feddygol yn y Gogledd.

Ychwanegodd fod byrddau iechyd ar hyn o bryd yn gwario symiau sylweddol o arian ar staff locwm a staff asiantaeth oherwydd problemau recriwtio ac y byddai buddsoddiad cychwynnol mewn ysgol feddygol yn talu ei ffordd yn fuan.

Dywedodd Sian Gwenllian AC sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros ysgol feddygol i Ogledd Cymru:

"Mae'r ffigurau hyn yn amlygu’r broblem barhaus o recriwtio yn y Gwasanaeth Iechyd ar draws Gogledd Cymru’’.

"Ar hyn o bryd mae 141 o swyddi gwag gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn unig, sy’n cyfrif am 37% o'r holl swyddi gwag yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.’’

"Mae hyn yn dangos bod penderfyniad anffodus Llywodraeth Lafur Cymru i wrthod cynigion ar gyfer ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn anghydnaws â thystiolaeth o brinder staff yn y Gwasanaeth Iechyd. "

"Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn gwario symiau sylweddol o arian - bron £80m dros y tair blynedd diwethaf gan Betsi Cadwaladr ei hun - ar feddygon locwm i lenwi'r bwlch staffio ledled Cymru."

‘"Byddai buddsoddiad cychwynnol mewn ysgol feddygol yn talu ei ffordd yn fuan, ac arbed byrddau iechyd rhag gorfod talu am staff locwm dro ar ôl tro."

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru eto i gyflwyno achos busnes, y mae'n honni sy’n bodoli, yn erbyn sefydlu'r ysgol feddygol newydd."

"Mae Plaid Cymru eisoes wedi amlinellu sut y gallai hyfforddi 40 o feddygon ychwanegol ym Mangor, drwy gydweithrediad â phrifysgolion eraill Cymru, fod yn gam pwysig tuag at roi ysgol feddygol ei hun i Ogledd Cymru. "

"Mae'r dystiolaeth yn cynyddu o blaid ysgol feddygol a dylai’r Llywodraeth Lafur gymryd camau i sicrhau bod gan bob dinesydd yn y Gogledd fynediad well a chyflymach i ofal meddygol o ansawdd."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd