Siom a phryder AC Arfon am gau Meddygfa Dolwenith

Llun_-_Picture_-_Sian_Gwenllian_-_Meddygfa_Dolwenith_(1).jpg

Mae AC Arfon Siân Gwenllian wedi mynegi pryder mawr o glywed fod Meddygfa Dolwenith ym Mhenygroes yn cau heb i unrhyw feddyg arall gael ei apwyntio yn Nyffryn Nantlle.

“Os nad yw hyn yn profi’r achos am Ysgol Feddygol ym Mangor dwn i ddim beth fydd!” meddai Siân Gwenllian.

Bydd y Cymro Cymraeg Dr Morris Jones sydd wedi bod yn gwasanaethu o feddygfa Dolwenith yn ymddeol ddiwedd y mis, ac er gwaethaf galwadau cynghorwyr lleol a’r AC Siân Gwenllian am eglurder parthed dyfodol Dolwenith a gwasanaethau meddyg cyfrwng Cymraeg ym Mhenygroes, does dim ymateb wedi dod gan y bwrdd iechyd na’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.

Mae’r AC wedi canfod bod cleifion y feddygfa wedi derbyn llythyr yr wythnos diwethaf yn cadarnhau y bydd y feddygfa yn cau. Mae hyn yn groes i ddatganiad y bwrdd iechyd i’r wasg a oedd yn honni bod meddyg arall am gael ei apwyntio neu ei hapwyntio ac y byddai ef neu hi yn cyflogi cyd-weithiwr Cymraeg ei iaith. Yn lle hyn, mae’r cleifion yn cael y cynnig i fynd at un o’r ddwy feddygfa sydd ar ôl.

“Rydw i’n siomedig iawn i glywed y newyddion” meddai Siân Gwenllian.

“Nid yn unig mae Penygroes wedi colli ei unig wasanaeth meddyg cyfrwng Cymraeg ond mae Dyffryn Nantlle i gyd yn gorfod gwneud y tro a dim ond dwy feddygfa ble roedd tri yn arfer bod.”

Mae’r llythyr i gleifion Dolwenith yn datgan y byddant yn cael eu symud i feddygfa gyfagos Corwen House. Mae’n anodd gweld sut na fydd y gwasanaeth yn cael ei wasgu hyd yn oed pan fo’r staff yn gwneud eu gorau i beidio gadael i hynny ddigwydd.
Ysgrifennodd Siân Gwenllian at y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn mynegi ei phryderon ar Ebrill 24ain gyda chopi i Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr Gary Doherty ond mae hi eto i dderbyn ateb. Fe ysgrifennodd unwaith eto at Vaughan Gething ar Fehefin 23ain ond mae hi’n dal i aros ateb er iddi geisio sawl gwaith i’r ddau le.

“Mae’r diffyg cyfathrebu ynghylch mater mor bwysig yn rhwystredig iawn ac mae hynny wedi cynyddu’r pryderon yn lleol ar adeg pan roedd pobol eisoes yn teimlo’n boenus am ddyfodol Dolwenith ac yn ansicr am allu Corwen House i ymdopi efo’r cleifion ychwanegol.

Mae’r sefyllfa yma yn dangos diffyg cynllunio ymlaen llaw gan y bwrdd iechyd a’r llywodraeth. Yn yr hirdymor mae’r ardal yn haeddu canolfan iechyd modern ac mae gogledd Cymru yn haeddu Ysgol Feddygol er mwyn hyfforddi meddygon i ofalu am bobol leol.

Yn y cyfamser mae cleifion Dyffryn Nantlle angen sicrhad na fydd eu gofal yn dirywio o ganlyniad i’r ffaith fod y syrjeri’n cau a’u bod yn colli meddyg – yr unig feddyg oedd yn medru’r Gymraeg.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd