Annog Sports Direct i gael gwared ar bolisi iaith 'sy'n gwahaniaethu ac yn sarhaus'

Screen_Shot_2017-08-05_at_7.30.21_PM.png

Dywed AC Plaid Cymru Arfon fod y rheol 'Saesneg yn unig' yn dangos anwybodaeth o'r radd flaenaf.  

Mae AC Plaid Cymru Arfon ac Ysgrifennydd Cysgodol dros yr iaith Gymraeg, Sian Gwenllian, wedi annog Sports Direct‎ i gael gwared ar yr hyn mae'n ddisgrifio fel polisi iaith "sy'n gwahaniaethu a sy'n sarhaus."

Roedd Sian Gwenllian AC yn siarad ar ol adroddiadau fod staff Sports Direct yn ei siop ym Mangor wedi derbyn llythyr yn amlinellu polisi 'Saesneg yn unig' y cwmni gan gyfarwyddo staff i beidio siarad unrhyw iaith arall yn y siop.

Mae AC Plaid Cymru Arfon wedi mynnu cael ymddiheuriad ffurfiol gan Sports Direct a chael gwared o'r polisi sydd yn "dangos anwybodaeth o'r radd flaenaf " o natur cymdeithasol a diwylliannol Bangor a'r ardal.

Dywedodd Sian Gwenllian AC:

"Mae'r llythyr mae staff siop Sports Direct store ym Mangor wedi ei dderbyn yn datgelu polisi iaith sy'n sarhaus.

"Mewn ardal fel Bangor lle mae nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, mae'n debygol iawn y byddai polisi o'r math yma yn gwadu hawl aelodau staff i sgwrsio yn eu hiaith ei hunain.

"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd dilornus gan Sports Direct - cwmni sydd eisioes wedi magu enw drwg gan sgandalau ynglyn a chyflogau isel a gwahaniaethu ar sail rhyw.

"Mae Sports Direct wedi ceisio amddiffyn eu safbwynt- ac wedi methu. Dydy hyn ddim digon da. Mae angen i'r cwmni gyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol i'w staff a'i gwsmeriaid, llawer fydd yn gresynu at y digwyddiad yma.

"Mae'r ffaith fod Sports Direct yn ceisio cyflwyno polisi o'r math mewn ardal aml-ieithog fel Bangor yn datgelu anwybodaeth dwfn y cwmni o'r ardal a'i wead cymdeithasol a diwylliannol.

"Byddaf yn cyflwyno cwyn ffurfiol i berchennog Sports Direct a byddwn yn annog unrhyw un sy'n pryderu am degech a chydraddoldeb yn y gweithle i wneud hynny hefyd."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd