AS Arfon yn croesawu uwchraddio pellach i rwydwaith ffonau symudol ym Mangor

Hywel_Williams_MP.jpg

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi croesawu gwaith o uwchraddio’r rhwydwaith ffonau symudol lleol ar ôl i Vodafone gyhoeddi buddsoddiad yn ninas Bangor, gyda hanner deheuol y dref a'r ardaloedd arfordirol yn elwa o wasanaethau 4G dros y misoedd nesaf.

Daw'r cyhoeddiad ychydig fisoedd ar ôl i Mr Williams gyfarfod â Vodafone yn Llundain i lobïo am welliannau i ddarpariaeth ffonau symudol ar draws etholaeth Arfon. Mae’r AS Plaid Cymru wedi hir-ymgyrchu dros well signal symudol a data ar draws gogledd Cymru.

Dywedodd Hywel Williams AS,

"Mae'n galonogol fod un o ddarparwyr telathrebu symudol fwyaf y DU wedi penderfynu uwchraddio eu gwasanaethau ac mae ganddynt gynlluniau uwchraddio pellach i'r rhwydwaith symudol lleol."

“Gobeithiaf bydd y buddsoddiad mewn seilwaith symudol yn gwella cyflymder i gwsmeriaid Vodafone ym Mangor a'r cyffiniau ac yn annog darparwyr rhwydwaith eraill i fuddsoddi mewn uwchraddio eu gwasanaethau."

“Rwyf wedi dadlau'n gyson am well gwasanaeth symudol mewn ardaloedd gwledig gan gyfarfod yn ddiweddar â Vodafone a darparwyr rhwydwaith eraill i lobio am fuddsoddiad pellach mewn seilwaith ddigidol ar draws Arfon."

“Roedd fy nghyfarfod diweddar â Vodafone yn adeiladol ac roeddwn yn falch o’u hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy a fydd yn arwain at welliannau i fy etholwyr.”

Ar hyn o bryd mae Vodafone yn cynnal rhaglen fuddsoddi mawr ar draws y DU ac wedi buddsoddi mwy na £2bn ers 2014 ac yn disgwyl gwario £2bn arall dros y tair blynedd nesaf.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd