Aelod Cynulliad Arfon yn agor Canolfan Gelfyddydol yn Llanberis

Agorwyd canolfan gelfyddydol newydd Y Festri yn Llanberis gan Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, gyda dros 300 o bobl leol a chynrychiolwyr sefydliadau celfyddydol yn bresennol.

Cafwyd blas o’r hyn mae Y Festri yn gobeithio’i gynnig yn y dyfodol, gan gynnwys barddoniaeth rhyng-weithiol gyda Bardd Pobol Ifanc Cymru, Martin Dawes, darlith ysbrydoledig ar y celfyddydau a hunaniaeth gan yr hanesydd Rhys Mwyn; cafwyd perfformiadau gwefreiddiol gan Syrcas Cimera, ac roedd peintiadau cain gan yr artist lleol Karrina Rosanna Barret yn cael eu harddangos yna, a byrddau graffiti gan artistiaid lleol Happy Medium.

Dywedodd Sian Gwenllian, “Roeddwn in arbennig o falch i gael fy ngwadd i dorri’r rhuban yn agoriad y fenter gymunedol gyffrous yma, ac roedd hi’n wych gweld cymaint o bobol leol a busnesau lleol yn cefnogi. Mae’r celfyddydau mor bwysig ar gymaint o lefelau gwahanol – maen nhw’n dod a gobaith a chysur mewn cyfnodau anodd, maen nhw’n medru lliniaru problemau a chynnig dihangfa o gymhethdodau bywyd, ac maen nhw’n llawer iawn o hwyl i unigolion a chymunedau fel ei gilydd.”

Nod Y Festri yw i hyrywddo a datblygu’r celfyddydau a phrosiectau celfyddydol drwy gynnig gwagle creadigol pwrpasol yn Llanberis. Enw’r adeilad ar Stryd Goodman oedd Theatr Fach yn wreiddiol, ac roedd yn cael ei redeg gan yr elusen Cwmni Drama. Dair blynedd yn ol daeth pwyllgor newydd at ei gilydd ac fe etholwyd ymddiriedolwyr newydd, a daeth Y Festri i fodolaeth yn swyddogol. Yn ol yr ymddiriedolwr Merlin Tomkins, mae’r enw’n arwydd o fwriad yr elusen i hyrwyddo ystod eang o gelfyddydau a pherfformiadau, ac o ymrwymiad cryf y fenter i’r iaith Gymraeg.

“Mae’r adeilad wedi ei adnewyddu diolch i grant gan Mantell Gwynedd er mwyn adnewyddu’r goleuadau, gwres a gwasanaethau eraill,” meddai Merlin Tomkins, “ond mae’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi ei wneud gan wirfoddolwyr lleol, ac mae ymroddiad a chefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn anhygoel.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd