AC yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau babanod cyn eu geni

Yn dilyn adroddiad newydd gan elusen SANDS (Stillbirth and Neo-Natal Death Charity) mae AC Arfon Siân Gwenllian yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau cyn geni. Dengys astudiaeth newydd o ysbyty Great Ormond Street a arianwyd gan SANDS mai dim ond 1 ymhob 4 teulu sydd yn cael gwybod pam y bu farw eu baban.

Mae Siân Gwenllian wedi cwrdd ag un fam sydd wedi bod drwy'r profiad anodd yma, er mwyn canfod beth yw ei barn hi am yr hyn y gellir ei wneud i leihau'r niferoedd o golledion, ac i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael yn Arfon i'r rhai sy'n colli plentyn cyn ei eni, neu yn fuan wedyn.

Mae Elen Hughes o Aberdaron yn fam i dri o fechgyn, ond roedd gan ei tri mab bach frawd arall - Danial - fu farw pan roedd Elen drideg-saith wythnos a hanner yn feichiog.

"Danial oedd fy ail feichiogrwydd," meddai Elen. "Roedd gen i un hogyn bach yn barod - Deio - oedd yn bedair oed ar y pryd. Roedd fy meichiogrwydd efo Danial yn gwbwl normal, ac yn cael ei weld fel un risg isel iawn. Roedd pob sgan yn iawn, ac roedd yr ysbyty yn awyddus imi ystyried geni adra. Ond un nos Wener do'n i ddim yn teimlo'n rhy dda - dim byd mawr, ond ddim yn teimlo fel fi fy hun. Mi ddeffrais i ar y bore Sadwrn, a theimlo nad oedd y babi'n symyd gymaint a'r arfer.

"Es i ar fy union i Ysbyty Gwynedd a ges i'n rhoi ar beiriant i fonitro calon Danial. Roedd y curiad yno'n glir, felly roedd popeth i'w weld yn iawn. Mi ges i nghadw ar y peiriant am bedair awr, jest i wneud yn siwr, a mwya' sydyn mi roth y babi un symudiad mawr, ac fe gollodd y peiriant guriad ei galon o. Roedden ni'n meddwl mai wedi troi oddiwrth y peiriant oedd o, ond fe fethon nhw a ffendio ei galon o wedyn, ac roedd o wedi marw."

Fel mam i bedwar o blant mae Siân Gwenllian yn gwybod beth yw'r pryder o gario babi a gobeithio y bydd popeth yn iawn.

"Mae'n gyfnod cyffrous iawn wrth gwrs" meddai, "ond yn gyfnod o ansicrwydd hefyd, gan bod rhywun yn ymwybodol y gall bethau fynd o chwith, ond dydi rhywun ddim isho meddwl am y posibilrwydd chwaith. Allai ddim dychmygu beth mae Elen a'i theulu wedi bod drwyddo fo, ac i feddwl bod 5,000 o fabanod yn cael eu colli cyn eu geni bob blwyddyn, mae'n frawychus meddwl cymaint o bobol sy'n mynd drwy'r profiad erchyll yma. Dyma pam rwyf yn galw am fwy o ymchwil i’r maes yma, yn y gobaith o ddod i ddeall y rhesymau dros rhai o’r marwolaethau, a dod a’r niferoedd i lawr.”

Roedd y cyfnod wedi colli Danial yn galed iawn i Elen, ac mae hi'n fythol ddiolchgar i'r elusen SANDS Gwynedd (Stillbirth and Neo-Natal Death) am ei chefnogi a'i chysuro yn ystod yr wythnosau a'r misoedd a ddilynodd y golled.

"Ro'n i ar goll am gyfnod hir - roedd y post mortem yn dangos nad oedd rheswm dros farwolaeth Danial, oedd yn gwneud pethau'n waeth mewn ffordd, achos doedd gen i ddim byd i'w feio na dim byd i'w osgoi y tro nesa. Mi nes i gysylltu efo SANDS a mynd i'w cyfarfodydd nhw ym Mangor, ac roedd cael rhannu fy nheimladau efo nhw yn gysur mawr."

Meddai Sian Gwenllian, "Mae'n bwysig iawn bod mamau a theuluoedd yn deall bod yna gefnogaeth ar gael iddyn nhw, ac mae Elen a'i theulu wedi codi 4 mil o bunnau i elusen SANDS er mwyn diolch iddyn nhw ac i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n medru digwydd, ac o'r gefnogaeth sydd ar gael pan mae o'n digwydd."

Mae Elen yn teimlo'n gryf bod angen i famau beichiog wybod nad ydi colled hwyr fel hyn yn anghyffredin, ac mae mesurau y gellir eu cymryd i gadw llygad ar iechyd y babi yn wythnosau olaf y feichiogrwydd.

"Pan ddaethon ni i fod isho trio eto am fabi, yn amlwg roeddwn i'n nerfus iawn," meddai Elen "ond mi wnes i ddefnyddio rhywbeth o'r enw Count the Kicks, sef siart neu app ffon sy'n eich helpu i gadw cofnod o symudiadau eich babi. Wrth ddod i adnabod eich babi fel hyn mi fyddwch chi'n fwy tebygol o sylwi ar unrhyw broblem yn fuan, a gallwch fynd at eich bydwraig neu feddyg i gael archwiliadau pellach."

Roedd y ddwy feichiogrwydd a ddilynodd marwolaeth Danial yn gwbwl ddi-drafferth, a Tomos ac Elis bellach yn dair ac yn un oed, a Deio y brawd mawr yn wyth.

"Mi liciwn i petai ysbytai'r wlad yma yn cynnig sgans trydydd tymor," meddai Elen. "Maen nhw'n gwneud mewn nifer o wledydd eraill erbyn hyn, ond nid yng ngwledydd Prydain. Mae rhywun yn mynd drwy hanner ei feichiogrwydd heb sgan o gwbwl, a dwi'n siwr petai trydydd sgan yn cael ei gynnig i famau beichiog y byddai yna fabanod yn cael eu hachub."

Mae colli plentyn yn un o'r pethau anoddaf a ddaw i ran unrhywun, a dydi hi'n fawr o syndod nad ydi pobol yn gwybod sut i ymateb pan fo cyfaill neu aelod o'r teulu yn mynd drwy'r profiad.

Meddai Siân Gwenllian, "O fod wedi siarad efo Elen am ymatebion pobol wedi iddi golli Daniel, dwi'n meddwl mai un o'r negeseuon pwysicaf y liciwn i ei throsglwyddo yw nad oes angen bod ofn mynd at fam sydd yn galaru, a chydymdeimlo efo hi. Dydi pobol ddim yn siwr beth i'w ddweud, ac felly yn dweud dim, a dyna'r peth gwaetha' wnewch chi, gan bod y fam wedyn yn teimlo'n fwy unig byth. Does dim rhaid dweud fawr ddim o gwbwl, dim ond cydnabod y golled, cydio yn llaw y fam - unrhywbeth, ond peidiwch a chroesi'r stryd ac osgoi."

"Neith neb fyth fy ypsetio i wrth son am Danial," meddai Elen. "Dwi isho gallu son amdano fo, a chlywed ei enw o. Dwi dal yn fam iddo fo, dwi wedi ei gario fo am bron i naw mis, wedi ei eni o ac wedi gafael amdano fo. Mi fydd o'n rhan o'n teulu ni am byth, ac yn frawd i Deio, Tomos ac Elis."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd