Yr achos dros Ysgol Feddygol

Dyma rhai o resymau dros sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor:

 

  • Byddai Ysgol Feddygol ym Mangor yn arwain at welliant yn ansawdd y gofal meddygol i bobl ein gwlad fel rhan o ddull ledled Cymru o hyfforddi meddygon newydd. 
  • Nid oes Ysgol Feddygol yn y Gogledd ar hyn o bryd. Mae’r unig ddwy yng Nghymru wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd yn y De, gan adael rhan enfawr o'r wlad heb hyfforddiant meddygol llawn.
  • Mae hyn yn bwysig oherwydd bod tystiolaeth academaidd o nifer fawr o ffynonellau yn profi bod canran sylweddol o feddygon yn aros i weithio yn yr ardal lle cawsant eu hyfforddi. 
  • Gan nad oes dim meddygon yn cael eu hyfforddi yma, does dim syndod bod y prinder meddygon teulu a meddygon ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn creu problemau enfawr a phwysau ar y GIG yn yr ardal. 
  • Ynghyd â phrinder dybryd am welyau (a hynny yn Ysbyty Gwynedd ac mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Orllewin Cymru), mae’r sefyllfa gofal iechyd yn ddifrifol yn y Gogledd. 
  • Mae’r gwariant ar feddygon locwm yn uwch yma nag mewn byrddau iechyd eraill. 
  • Rhaid inni ddechrau hyfforddi meddygon mewn Ysgol Feddygol yn y Gogledd fel rhan o'r ateb hirdymor.
  • Bangor yw’r lle delfrydol - mae'r Brifysgol yn rhagori ym maes addysg sy’n gysylltiedig ag iechyd ac mae eisoes yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Ysbyty Gwynedd.
  • Mae Ysbyty Gwynedd yn cael ei gydnabod yn eang fel canolfan ragoriaeth (er enghraifft ym maes Meddygaeth y Mynydd) ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol yng Nghymru a Lloegr.
  • Byddai’r Ysgol Feddygol newydd yn denu myfyrwyr o'r ardal leol, o bob rhan o Gymru ac yn wir o bob rhan o’r byd, gan ddod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer meddygaeth wledig - i ganfod atebion i’r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal mewn ardal denau ei phoblogaeth. 
  • Gallai'r Ysgol Feddygol newydd fod yn ganolbwynt i addysg feddygol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan hyfforddi'r meddygon dwyieithog sydd eu hangen i gyflawni strategaeth y Llywodraeth, ‘Mwy na Geiriau’, sy’n cydnabod bod y canlyniadau i'r claf yn well os yw’r cleifion yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd