Ymgynghorwyr meddygol yn cefnogi galwad AC Arfon am Ysgol Feddygol ym Mangor

Mae ymgyrch Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian dros Ysgol Feddygol ym Mangor yn ennyn cefnogaeth o bob cyfeiriad, ac yn dilyn cefnogaeth myfyrwyr meddygol yr wythnos diwethaf, y rhai diweddaraf i roi eu henwau i’r ymgyrch yw Dr Rhys Davies, Ymgynghorydd Niwrolegol yn Ysbyty Walton, Lerpwl a Mr Phillip Moore, Llawfeddyg Ymgynghorol yn yr adran Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Gwynedd Bangor.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n dechrau cynhyrchu mwy o ddoctoriaid lleol, a sefydlu Ysgol Feddygol yw'r ffordd orau o gyflawni hyn," meddai Mr Phillip Moore, sydd yn ymddangos yn gyson yn y gyfres Ward Plant ar S4C.
Dywedodd Dr Rhys Davies sydd yn gweithio yn Ysbyty Walton, Lerpwl ac yn dod yn wreiddiol o Nefyn, Pen Llyn, “Mae'r cais am ysgol feddygol ym Mangor yn haeddu pob cefnogaeth. Byddai'r Ysgol yn sylfaen i addysg feddygol Cymry dwyieithog ifanc, ac yn tynnu pobl ifanc talentog i Gymru. Byddai'n fodd i ddiwallu yr angen am feddygon i wasanaethu y Gymru wledig.”

Mae deiseb a ddechreuwyd gan Blaid Cymru Arfon i’r rhai sydd yn cefnogi’r ymgyrch wedi denu cannoedd o enwau yn barod, ac mae’r pwysau yn cynyddu ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth mewn lle a fydd yn ymateb i’r angen am Ysgol Feddygol ym Mangor a fydd yn fodd i sefydlogi gwasanaethau meddygol mewn ysbytai a chymunedau ar draws y gogledd.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd