“Angen gweithredu ar frys” i fynd i’r afael â phryder lleol ac i helpu twristiaeth medd AS

Mae Siân Gwenllian wedi ysgrifennu at Prif Weithredwr y cyngor i fynegi pryderon am y sefyllfa yn Llanberis

Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon sy'n cynnwys pentref Llanberis wedi ysgrifennu at Dafydd Gibbard i fynegi ei phryderon.

 

Mae’r AS yn honni bod angen “gweithredu ar frys” i leddfu pryderon lleol ac “i helpu’r diwydiant twristiaeth lleol.”

 

Daw sylwadau’r AS yng dilyn anfodlonrwydd yn lleol yn dilyn cynnydd mewn sbwriel, problemau parcio, a thensiynau oherwydd cynnydd mawr o ymwelwyr â’r ardal.

 

Yn ei llythyr at Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd, dywedd yr Aelod o’t Senedd;

 

“Rwyf yn ymwybodol o’r problemau sydd yn codi yn Llanberis yn sgil yr ymchwydd mewn poblogaeth oherwydd fod cynifer o ymwelwyr yn yr ardal.

 

“Mae angen gweithredu er lles y diwydiant twristaidd yn lleol hefyd. 

 

“Fydd ymwelwyr ddim yn dod yn ôl i’r ardal os oes sbwriel ac aflendid, problemau parcio a thensiynau yn codi.

 

“Mae’r Cyngor Cymuned wedi ysgrifennu atoch gydag awgrymiadau sydd yn synhwyrol iawn yn fy marn i ac erfyniaf arnoch i ddod a’r holl bartneriaid ynghyd er mwyn gweithredu cynllun yn Llanberis a’r ardal fydd o les i’r boblogaeth leol a’r diwydiant twristaidd.

 

“Hyderaf fod modd symud yn gyflym er mwyn datrys y problemau sydd yn effeithio ar bawb, yn drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-28 09:52:40 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd