“Archif o gymuned glòs, Gymraeg”

Mae lluniau’r yn cael eu harddangos yn Bwyd Da Bangor

Mae’r Aelod o’r Senedd dros dinas Bangor wedi talu teyrnged i gasgliad o luniau sy’n portreadu bywyd yn Hirael yn 1970au gan y ffotograffydd Garry Stuart.

 

Cyhoeddir ‘Hirael, North Wales - 1976’ gan Café Royal Books ac mae detholiad o’r ffotograffau yn cael eu harddangos yn Bwyd Da Bangor ar Stryd Fawr Bangor.

 

Ar ymweliad diweddar â'r fenter fwyd, galwodd y gwleidydd y casgliad yn “archif o gymuned glòs, Gymraeg.”

 

Mae'r lluniau yn y casgliad yn dyddio'n ôl i 1976, pan oedd Garry’n fyfyriwr ôl-radd ym Mangor.

 

Ymatebodd Siân Gwenllian i'r casgliad wrth ymweld â Bwyd Da Bangor:

 

“Rwy’n falch o weld bod y lluniau yn Bwyd Da Bangor, ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd hel atgofion am gymuned bwysig o fewn Bangor.

 

“Yn ddiweddar, bûm mewn cyswllt â Garry i ddiolch am y casgliad, casgliad sy’n archif o gymuned glòs, Gymraeg. 

“Oherwydd ei threftadaeth gyfoethog fel canolbwynt diwydiannol, mae ardal Hirael yn parhau i fod o arwyddocâd hanesyddol mawr.

 

“Mae'r ffotograffau yn rhan o’n hanes cymdeithasol.

 

“Cefais innau fy magu yn y Felinheli, pentref wedi’i wreiddio yn y traddodiad diwydiannol balch, ac mae gweld y lluniau yn dod ag atgofion dymunol o blentyndod hynod yn ôl. Y bobl, y sibols sy'n gwneud cymunedau fel Hirael, cymeriadau fel y rhai sy'n cael eu portreadu yn y llyfryn.

 

“Yn ddiweddar es i draw i arddangosfa’r arlunydd lleol Pete Jones, darnau wedi’u hysbrydoli gan atgofion o’i blentyndod yn Hirael, cymuned sydd â thraddodiad o ysbrydoli artistiaid.

 

“Isalaw, er enghraifft, yr emynydd enwog, a ddechreuodd ar ei daith ysbrydol yn ei gartref yn Ffordd Lan Môr, Hirael.

 

“Hoffwn ddiolch i Garry am y cyfle i hel atgofion am gyfnodau hapus iawn yn Hirael yn ystod fy nghyfnod fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Merched Bangor.

 

“Rwy’n siŵr y bydd y lluniau yn rhoi dos go dda o hiraeth i lawer o drigolion Bangor."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-12-16 14:21:16 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd