“Blwyddyn o darfu ar addysg – siawns nad yw'r llywodraeth wedi dysgu rhai gwersi erbyn hyn?”

Siân Gwenllian AS yn galw am fesurau ychwanegol i gadw ein hysgolion yn ddiogel – ac yn agored

Gellir gwneud mwy i helpu i amddiffyn staff ysgolion a disgyblion, yn ôl Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS.

 

Dywed Ms Gwenllian fod dull presennol Llywodraeth Cymru o weithredu yn gyfyngedig a gellid gwneud mwy i atal safleoedd addysg rhag gorfod cau. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

 

  • Brechu: O fewn pob grŵp blaenoriaeth brechu, symud staff ysgol a gweithwyr allweddol eraill, gan gynnwys y rhai sy'n gyrru cludiant i'r ysgol, i frig y rhestr. Nid yw plant ar y rhestr o'r rhai sydd i fod i gael brechlyn ar hyn o bryd, felly gallai gweithwyr ysgol wynebu mwy o gysylltiad â'r feirws.
  • Profion: Mae nodi'n gynnar drwy brofion ar draws yr ysgol yn allweddol, yn enwedig pan fydd plant yn aml yn gallu bod yn asymptomatig ac eto'n dal i drosglwyddo'r feirws.
  • Awyru: Gall aerosolau sy'n cynnwys coronafeirws agregu yn yr awyr mewn mannau dan do caeedig fel ystafelloedd dosbarth. Mae Plaid Cymru yn galw am gyllid penodol i helpu lleoliadau addysgol i fonitro ac awyru eu hadeiladau'n ddigonol. Ni ddylid atal disgyblion a staff ysgol rhag gwisgo dillad cynnes priodol yn ogystal ag unrhyw wisg ysgol ffurfiol. Os yw plant wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer tymereddau oerach, yna mae dysgu yn yr awyr agored hefyd yn dod yn bosibilrwydd.
  • Ymbellhau cymdeithasol mewn ystafelloedd dosbarth: Pan fo trosglwyddo cymunedol yn uchel, dylid rhoi pob opsiwn i ysgolion alluogi dysgu wyneb yn wyneb sydd â phellter cymdeithasol. Gan gynnwys system rota lle mae cyfran o'r dosbarth ar y safle a'r gweddill adre. Er mwyn i hyn fod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i bob disgybl gael mynediad digonol at ddysgu o bell. Er bod Cymru'n parhau i fod dan glo, a bod rhai adeiladau cyhoeddus ddim yn cael eu defnyddio, dylid rhoi'r opsiwn i ysgolion ddefnyddio'r rhain os ydynt yn darparu mannau dan do mwy.

 

Mae Ms Gwenllian wedi galw o'r newydd am gynllun addysg dal i fyny clir, gan gynnwys monitro a mesur tlodi digidol yn well ym maes addysgu Cymru.

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

 

“Mae wedi bod yn flwyddyn o amhariad ar addysg ond siawns nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi dysgu rhai gwersi am sut i agor ysgolion yn ddiogel yn y cyfamser?

 

“Yr unig ymateb sydd gan y llywodraeth, i bob golwg, yw cloeon cenedlaethol. Pan fydd trosglwyddo cymunedol yn uchel, maent yn ein cloi i lawr, ac mae'n anochel bod ysgolion yn cau eto. Dim ond pan fydd cyfraddau heintio wedi gostwng yn y gymuned, mae ysgolion yn ailagor. Mae'r dull hwn, er ei fod yn syml, yn llawer rhy gyfyngedig.

 

“Mae angen sicrwydd ar rieni, disgyblion a staff bod amgylchedd yr ysgol yn ddiogel, ac yn sicr mae pethau y gellir eu gwneud i roi hyder iddynt, megis defnydd helaethach o awyru, symud gweithwyr ysgol i frig eu grŵp blaenoriaeth brechu, a rhaid rhoi pob opsiwn i ysgolion alluogi ymbellhau cymdeithasol digonol mewn ystafelloedd dosbarth.

 

“Gyda blwyddyn o edrych yn ôl, mae'n fy mhoeni i feddwl faint yn fwy o addysg wyneb yn wyneb y gallai ein plant a'n pobl ifanc fod wedi'i chael, pe bai Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r holl ddulliau a oedd ar gael yn gynharach.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-02-04 15:52:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd