"Buddugoliaeth i bobl ifanc Cymru" meddai Plaid Cymru.

Wrth ymateb i’r tro pedol mawr gan Lywodraeth Cymru y bydd pob gradd Safon Uwch a TGAU yn seiliedig ar asesiadau athrawon yn hytrach nag ar algorithmau, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS,
 
“Mae hwn yn gyhoeddiad sydd i’w groesawu’n fawr, er ei fod yn hwyr iawn yn dod.
 
“Mae pwysau gan Blaid Cymru, disgyblion, athrawon a rhieni yn golygu yn awr y bydd pobl ifanc yn derbyn y graddau y dylent fod wedi eu derbyn o’r cychwyn cyntaf. Pobl ifanc Cymru sydd sydd piau’r fuddugoliaeth hon, wedi iddynt dangos gwell arweinyddiaeth na'u llywodraeth eu hunain.
 
“Er ei fod yn anffodus na ddaeth y tro pedol hwn yr wythnos ddiwethaf, yn hytrach nag achosi cymaint o ansicrwydd a phryder diangen i fyfyrwyr, hoffwn longyfarch y bobl ifanc sydd wedi arwain yr ymgyrch hon mor fedrus.
 
“Mae angen ymchwiliad llawn i’r llanast hwn, a dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion am yr hyn yr aethant drwyddo yn ystod yr wythnosau diwethaf.
 
“Peidiwch eto â chwestiynu proffesiynoldeb a chywirdeb ein hathrawon a gwaith caled ein disgyblion. Am heddiw, gadewch inni ddathlu bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd