Cefnogwch gynnyrch lleol o ansawdd uchel yn ystod #WythnosBrecwast2021

 Mae Siân Gwenllian AS wedi cefnogi Wythnos Brecwast Undeb Amaethwyr Cymru gan annog pobl i gefnogi cynnyrch o ansawdd uchel gan ein ffermwyr.

Yn ystod diwedd Ionawr, fel arfer, byddai Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at Wythnos Brecwast y Ffermdy, sy'n gyfle i hyrwyddo cynnyrch lleol o safon, wedi ei gynhyrchu gan ffermwyr. Mae hefyd yn gyfle i'r UAC dynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.

 

Serch hynny, o ystyried cyfyngiadau Covid-19, nid yw’n bosibl dathlu yr wythnos yn y ffordd draddodiadol yn 2021.

 

Ond bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen mewn ffordd wahanol, a hynny rhwng dydd Llun 18 a dydd Sul 24 Ionawr 2021.

 

Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd ac a fyddai fel rheol yn mynychu un o’r brecwastau yn ei hetholaeth wedi dweud;

 

“Rwy’n falch ein bod yn dal i allu dathlu cynnyrch lleol, yn ogystal â hyrwyddo ein diwydiant amaeth lleol er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19.

 

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld busnesau Arfon lleol yn cymryd rhan.”

 

Mae 3 o fusnesau Arfon yn cymryd rhan yn yr Wythnos Frecwast, sy'n annog pobl i brynu cynnyrch lleol gan fusnesau sy'n cymryd rhan.

 

“Bydd Caffi Gerlan, Groeslon, O G Owen, Caernarfon, a Wavells Butchers Ltd, Llanrug yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

 

“Rydym yn ffodus iawn o gael y busnesau lleol hyn o fewn ein cyrraedd.

 

“Maent wedi bod yn achubiaeth i bobl leol yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf o gyfyngiadau teithio ac ynysu, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi magu gwerthfawrogiad o'r newydd o fusnesau a chynhyrch lleol.”

 

Mae UAC yn annog y cyhoedd i gymryd rhan yn yr wythnos drwy brynu cynnyrch brecwast gan ddarparwyr lleol, a rhannu lluniau a fideos ohonyn nhw eu hunain â'u brecwast ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #brekfastweek2021.

 

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae’r syniad o eistedd o amgylch bwrdd y gegin i fwynhau’r cynnyrch o ansawdd y mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu, gan gynnwys wyau, caws, cig moch, selsig, menyn ac iogwrt yn dal i fod yn bosib o gartref gyda'n teulu.”

  

Mae'r ymgyrch yn mynd gam ymhellach ac yn gobeithio codi arian ar gyfer Sefydliad DPJ trwy ofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan roi cyfraniad.

 

Ychwanegodd yr Aelod o’r Senedd lleol;

 

“Rwy’n hapus i allu cefnogi’r achos teilwng hwn o gartref eleni.

 

“Byddwn fel arfer yn mynychu un o’r brecwastau a gynhelir yn yr etholaeth. Maent yn adlewyrchiad o'r ysbryd cymunedol yn ein cymunedau amaethyddol.

 

Maent hefyd yn gyfle gwych i gefnogi ein ffermwyr.

 

“Rwy’n annog eraill i gefnogi Wythnos Brecwast UAC, a gwneud cyfranniad os oes modd.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-01-19 10:35:22 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd