“Dynes oedd o flaen ei hamser”

Teyrnged i Pat Larsen gan Siân Gwenllian AS

Roeddwn yn drist iawn o glywed am farwolaeth Pat Larsen, dynes oedd o flaen ei hamser.

 

Roedd ei chyfraniad yn un aruthrol, nid yn unig i'w chymuned leol, ond i Wynedd a Chymru gyfan.

 

Fe’i hetholwyd am y tro cyntaf yng nghanol y 1960au, ac erbyn iddi ymddeol o siambr y cyngor yn 2012 hi oedd y cynghorydd a wasanaethodd am y cyfnod hiraf yng Ngwynedd. Etholwyd Pat yn wreiddiol fel cynghorydd ym Mangor, a hynny yn gynnar yn y 1950au. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar gyngor y ddinas.

 

Aeth yn ei blaen i gael ei hethol yn gynghorydd sir dros ward Llanddeiniolen ac yn hwyrach, dros ward Penisarwaun. Bu’n athrawes, yn ogystal â gwasanaethu fel Maer ar hen Gyngor Dosbarth Arfon.

 

Hi oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Gwynedd fel ag y mae heddiw.

 

Arweiniodd y ffordd i ferched fel fi yn ei hysbryd penderfynol di-ildio ac roeddwn i'n ei ystyried yn fraint cael gwasanaethu ochr yn ochr â hi fel cynghorydd.

 

Rwy'n meddwl am y teulu ar adeg o dristwch a galar anochel, ond byddaf hefyd yn dathlu bywyd Pat Larsen, ac ar lefel bersonol, byddaf yn diolch am gael ei 'nabod a dysgu o'i doethineb a'i dyfalbarhad.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-11-23 11:40:52 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd