"Manteision addysg" i symud tymor yr Hydref ymlaen, meddai Plaid.

Mae Plaid Cymru yn dweud y gallai fod "manteision addysgol" i symud dechrau tymor yr Hydref ymlaen. 

Dywedodd AS Plaid Cymru a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Sian Gwenllian y byddai hynny'n well i ddisgyblion gan y byddai'n gwella cysondeb, dilyniant a sefydlogrwydd ar adeg gythryblus iawn i blant a phobl ifanc. 

Ychwanegodd Ms Gwenllian y gallai hyn hefyd arwain y ffordd at newidiadau parhaol, mawr eu hangen, drwy ddarparu cyfle i feddwl am ail-lunio'r flwyddyn draddodiadol tri thymor mewn ffordd fwy cydlynol sy'n fwy addas i anghenion cyfoes

Cyn hyn, mae adolygiad annibynnol Addysgu: Proffesiwn gwerthfawr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i edrych ar 'ailystyried' ein hysgolion i'w gwneud yn fwy ffafriol i ddysgu ac yn fwy ystyriol o deuluoedd.   

Dywedodd Ms Gwenllian fod ymchwil wedi dangos bod "cysondeb a dilyniant" yn elfennau pwysig ar ddysgu. Dywedodd hi fod athrawon a disgyblion ar hyn o bryd yn cael "hanner tymhorau dwys" cyn gwyliau byr, a bod hyn yn achosi blinder i athrawon a disgyblion. Ychwanegodd Ms Gwenllian fod llawer o athrawon yn dweud bod tymor yr haf yn "rhy hir" – yn enwedig i blant sydd ddim yn cael cymorth i ddysgu gartref. 

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid ei bod "efallai'n bryd meddwl eto" am drafodaethau yn sgil yr argyfwng Coronafeirws ac y gallai fod yn bryd ystyried newid tymhorau ysgol "yn barhaol".  

Ddydd Gwener, dywedodd Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru fod cynlluniau i symud gwyliau haf ysgolion Cymru ymlaen fis wedi cael eu rhoi heibio. 

Fodd bynnag, dywedodd Ms Gwenllian y dylid parhau i "archwilio'n llawn" y posibilrwydd o symud gwyliau haf eleni ymlaen, ac agor ysgolion yn raddol fesul cam ym mis Awst pe bai hynny'n ddiogel.

Ond pwysleisiodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid y dylid gwneud mwy i wella dysgu o bell yn y cyfamser ac y dylai pob ysgol ffocysu ar ymgysylltu â phob disgybl a sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei "adael ar ôl".

 

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,

 

"Dylem barhau i archwilio'n llawn y manteision addysgol posibl o symud gwyliau haf eleni ymlaen a dechrau tymor yr hydref ym mis Awst. Yna, gellid dechrau agor ysgolion yn raddol fesul cam ym mis Awst pe bai hynny'n ddiogel.

"Cyn argyfwng y Coronafeirws, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â hyd tymhorau ysgol a'r angen i newid o dri i bedwar tymor ysgol a gwneud gwyliau'r haf yn fyrrach. 

"Mae angen meddwl am y trafodaethau hynny eto ar ôl y Coronafeirws, ac efallai ei bod yn bryd ystyried newid tymhorau ysgol yn barhaol ac ail-lunio patrwm blynyddol ysgolion. 

"Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae hydoedd tymhorau'n amrywio a gwyliau'n digwydd yn afreolaidd, er bod ymchwil yn dangos bod cysondeb a dilyniant yn elfennau pwysig ar ddysgu. Ar hyn o bryd, mae athrawon a disgyblion yn cael yr hanner tymor dwys cyn gwyliau byr. Erbyn diwedd pob tymor, mae pawb yn flinedig iawn. Ar y llaw arall, mae llawer o athrawon yn dweud bod tymor yr haf yn rhy hir, a bod angen defnyddio wythnosau cyntaf tymor yr hydref i ddal i fyny, yn enwedig ar gyfer plant sydd ddim yn cael cymorth i ddysgu gartref. 

"Yn y cyfamser, mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i wella dysgu o bell. Dylai hyn fod yn ganolog i'r cynlluniau i ailagor ysgolion yn raddol. Dylai hefyd fod yn rhan annatod o gynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i ymdrechu i gau'r bwlch digidol/tlodi a'r bwlch cyrhaeddiad. Rhaid i'n system addysg ffocysu ar ymgysylltu â phob plentyn a sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei adael ar ôl.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd