AC Arfon yn galu am hwb canser.

AC ARFON YN GALW AM HWB CANSER I WYNEDD I GYFLYMU DIAGNOSIS.

'Cefnogaeth gryf' i ganolfan bwrpasol i ostwng cyfraddau marwolaeth canser.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn canolfan ddiagnostig canser yng Ngwynedd, yn sgil ffigyrau diweddar a ddengys mai canser yw prif achos marwolaethau yng ngogledd Cymru.

Yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd, nododd Siân Gwenllian dreialon llwyddiannus yn ne Cymru fel enghreifftiau o sut mae canolfannau diagnostig yn achub bywydau.

Dywedodd fod pobl yng Ngwynedd, gan gynnwys dros 1,200 sydd eisoes wedi llofnodi llythyr agored yn cefnogi sefydlu canolfan ddiagnostig gyflym, yn haeddu cydraddoldeb gofal.

Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Ganolfan Iechyd ac Economeg Prifysgol Abertawe fod amseroedd aros cleifion a welwyd mewn canolfannau diagnostig cyflym yn cael eu torri i lai na chwe diwrnod, gostyngiad o 92% mewn amseroedd aros yn y flwyddyn gyntaf.

‘Gwyddom fod adnabod canser yn gynnar yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael canlyniad da neu ganlyniad gwael pan fo’n dod i drin canser.’

‘Yn syml, mae darganfod canser yn gynnar yn achub bywyd y claf.’

‘Mae’r dystiolaeth cadarnhaol sy’n dod yn sgil cynlluniau peilot Castell Nedd a Phort Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i’w groesawu yn fawr.’

‘Mae pobl Gwynedd yn galw am gael gwasanaeth tebyg, gyda dros mil a hanner o bobl wedi llofnodi llythyr agored yn galw am ganolfan ddiagnosis cyflym yno.’ 

‘Gan ystyried fod canser yn arwain at farwolaeth mwy o bobl yng Ngwynedd nag unrhywbeth arall ac ein bod yn gwybod fod diagnosis cyflym yn achub bywydau, pryd fedrwn ni weld canolfan ddeiagnosis cyflym yn dod i Wynedd?’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd