Ail borthladd fferi prysuraf y DU yn cael ei ddiystyru medd AS Plaid

Rhaid amddiffyn llwybrau nwyddau hanfodol economi gogledd Cymru medd Hywel Williams.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo llywodraeth y DU o ddiystyru porthladd fferi ail brysuraf y DU wrth i Gaergybi gael ei adael allan o becyn cymorth Covid-19 gwerth £17 miliwn.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd llywodraeth y DU becyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd i amddiffyn llwybrau fferi a nodwyd fel ‘cysylltiadau hanfodol’ rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw sôn am gefnogaeth i borthladd Caergybi, sy'n hanfodol i economi gogledd orllewin Cymru.

Yn ystod cwestiwn gyda’r Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin trwy gyswllt fideo, dywedodd Mr Williams ei bod yn ymddangos fel pe bai llywodraeth y DU yn aros i borthladd Caergybi fethu cyn camu i mewn.

 

Dywedodd Hywel Williams AS

‘Ddydd Gwener, cyhoeddodd y llywodraeth becyn cefnogaeth i wasanaethau fferi rhwng Gogledd Iwerddon, yr Alban, a Lloegr. Anwybyddwyd y llwybr o Gaergybi i Ddulyn.'

'Mae llawer iawn o draffig Caergybi - Dulyn mewn gwirionedd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, gan gynnwys cludo nwyddau sy’n sensitif i amser fel bwyd a meddygaeth.'

‘Mae hefyd yn hanfodol i economi gogledd orllewin Cymru. A yw’r Canghellor yn aros i Gaergybi, ail borthladd fferi prysuraf yn y DU, fethu cyn camu i mewn?’

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS,

'Mae pandemig coronafirws wedi cael effaith ddifrifol ar wasanaethau fferi a'r porthladdoedd sy'n eu cynnal yn y DU, ac nid yw Caergybi yn eithriad.'

‘Mae’r llwybr rhwng Caergybi a Dulyn yn gyswllt pwysig iawn, gan gludo nwyddau sy’n sensitif i amser fel bwyd a meddygaeth rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae o bwysigrwydd strategol i economi gogledd Cymru.' 

‘Mae’n anghredadwy nad yw Porthladd Caergybi wedi’i gynnwys ym mhecyn cymorth Llywodraeth y DU ac rwy’n galw ar frys ar y llywodraeth i unioni’r anghyfiawnder hwn.' 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd