Llywodraeth Llafur Cymru yn ildio i bwysau gan Blaid Cymru ar ail gartrefi

44499210124_0aa71eff2c_k.jpg

Yn dilyn pryderon a godwyd gan Blaid Cymru fod pum miliwn o bobol Prydain bellach yn berchen dau neu mwy o gartrefi a bod pum mil o ail gartrefi yng Ngwynedd yn unig –y nifer mwyaf o ail gartrefi mewn unrhyw ardal o’r DU, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu mynd i’r afael a’r anomali sy’n golygu nad yw rhai perchnogion yn talu trethi cyngor na threthi busnes.

Croesawyd y penderfyniad gan Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, a nododd fod angen gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad gan bresenoldeb nifer cynyddol o ail gartrefi yn eu cymunedau.
Meddai Sian Gwenllian AC yn y Siambr heddiw y gellid ei wneud yn ofynnol yng Nghymru i unrhyw dŷ preswyl gael caniatâd cynllunio cyn y gellid ei droi’n ail gartref – rhywbeth fyddai’n galluogi cynghorau i gael gwell rheolaeth ar y sefyllfa.
Meddai Sian Gwenllian AC,
“Rydw i wedi rhoi’r cwestiwn yma i’r Prif Weinidog heddiw y gallai’r cam bychan yma fynd peth ffordd at alluogi cynghorau i gael gwell rheolaeth ar y nifer o ail gartrefi mewn cymunedau. Holais a ydi o’n cytuno bod dirfawr angen y mesur bychan yma, ac edrychaf ymlaen at weld y llywodraeth yn gweithredu ar yr awgrym yma fel maen nhw wedi gwneud gyda’r anomali trethi cyngor a busnes.
“Mae gennym storm ar y gorwel yng Ngwynedd ble mae pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith; mae yna gynydd yn niferoedd y boblogaeth hyn; mae ail gartrefi yn gwthio prisiau tai i’r entrychion a thu hwnt i gyrraedd pobl leol; mae cyflogau isel yn arwain at dlodi yn yr ardaloedd gwledig, ynghyd a thlodi trafnidiaeth a thlodi tanwydd. Ar ben hynny mae colled y cyllido Ewropeaidd a oedd yn dod i ni gynt am ein bod yn un o wledydd tlotaf Ewrop, ac yna ffolineb gwallgo’r Llywodraeth Lafur a’u cynllun i ddileu’r taliadau sengl i ffermwyr ar adeg pan maen nhw fwyaf angen cysondeb a chefnogaeth.
“Bellach mae gennym bum mil o ail gartrefi yng Ngwynedd. Ni yw’r sir sydd a’r nifer fwyaf yn y DU, ac mae eu bodolaeth yn gyrru prisiau tai drwy’r to ac yn ei gwneud hi’n amhosib i deuluoedd ifanc ar incwm isel i brynu eu cartref eu hunain. Mae cwt lan y mor yn Abersoch – sy’n gartref i fwcedi a rhaw - rwan yn costio £160,000, mwy na fedr y rhan fwyaf o bobl fforddio ei wario ar dy heb son am gwt.
“Ond mae cymaint eto i’w wneud, ac mae rhoi anghenion cymunedau gwledig wrth galon ein polisi cynllunio yn hollbwysig i barhad y cymunedau rheiny. Mae ymyrryd yn gadarnhaol mewn polisiau economaidd er mwyn cynnal ein cymunedau gwledig yn hanfodol. Byddaf yn achub ar bob cyfle yn ystod gweddill y tymor hwn i wthio’r Blaid Lafur i wneud y newidiadau sydd yn rhaid digwydd, tra hefyd yn ymgyrchu dros lywodraeth Plaid Cymru yn 2021”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.