Angen cyhoeddiad am ailagor ysgolion ym mis Medi "nawr" - nid cyn diwedd y tymor, meddai Plaid Cymru

Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, ac Arweinydd Cyngor Ceredigion a dirprwy lefarydd addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Ellen ap Gwyn, yn galw am gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am ailagor ysgolion ym mis Medi. 

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion nawr, yn ôl Plaid Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun y bydd ei Lywodraeth yn gwneud cyhoeddiad "cyn diwedd tymor yr haf" ynglŷn ag ailagor ysgolion ym mis Medi, ond mae Plaid Cymru yn dweud nad yw hyn yn gadael digon o amser cynllunio i Benaethiaid ac Awdurdodau Lleol.

 

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Sian Gwenllian fod Llywodraeth Cymru yn dangos "diffyg arweinyddiaeth" wrth ohirio'r cyhoeddiad ac y gellid, ac y dylid, cyhoeddi "senario mwyaf tebygol" cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Plaid Cymru ac arweinydd Addysg y blaid ar Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, Ellen ap Gwynn, fod y diffyg cyhoeddiad yn "achosi rhwystredigaeth i bawb" ac y dylai ysgolion ac Awdurdodau Lleol sydd wedi gweithio'n "anhygoel o galed" yn ystod yr argyfwng gael syniad am yr hyn i'w ddisgwyl ym mis Medi.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Sian Gwenllian AS,

 

"Mae cynllun go iawn ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Medi yn hollbwysig i Benaethiaid ac Awdurdodau Lleol – mae'n rhaid iddynt gael gwybod beth y byddant yn gweithio tuag ato ym mis Medi. Ni all y math hwn o gyhoeddiad aros tan ddiwedd y tymor oherwydd bydd angen digon o amser cynllunio i wneud trefniadau.

 

"Mae'r diffyg arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc hwn yn siom, a bydd yn achosi goblygiadau i les a chyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghymru, gan ei fod yn effeithio ar allu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw.

 

"Wrth gwrs mae'r feirws yn anodd ei ragweld, ac ni all neb wybod yn siŵr beth fydd y sefyllfa yng Nghymru ym mis Medi, ond gall Llywodraeth Cymru wybod beth yw'r senario mwyaf tebygol i ysgolion, ac a ddylid disgwyl i bob disgybl ddychwelyd ynteu ai dysgu o bell a gwersi wyneb yn wyneb mewn grwpiau bach fydd y norm."

 

Ychwanegodd Ellen ap Gwynn, arweinydd addysg Plaid Cymru ar Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru,

 

"Mae diwedd tymor yr haf yn rhy hwyr o lawer i wneud cyhoeddiad ynglŷn ag ailagor ysgolion ym mis Medi, ac mae'n annheg i benaethiaid sy'n wynebu tasg enfawr o gynllunio ar gyfer ailagor. Mae'n peri rhwystredigaeth anhygoel i bawb.

 

"Er mwyn ysgolion ac awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed yn y cyfnod digynsail hwn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y cyhoeddiad hwnnw nawr – nid cyn diwedd y tymor."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd