Angen taer i adennill amser a gollwyd

Plaid Cymru yn galw am benderfyniad eglur a chryno am arholiadau i osgoi'r posibilrwydd o "anfantais ddwbl" i rai dysgwyr.

Mae Plaid Cymru wedi galw am benderfyniad cyflym am arholiadau haf 2021, i osgoi pryder wedi'i achosi gan ddiffyg eglurder.  

 

Mae Siân Gwenllian AS, Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, yn dweud bod "angen taer" ar ddisgyblion am eglurder ynghylch a fydd disgwyl iddynt sefyll arholiadau yn ystod y flwyddyn ysgol bresennol. Yr hiraf y bydd y broses o wneud y penderfyniad yn para, y lleiaf o amser a fydd gan ysgolion i sefydlu'r hyn y mae Ms Gwenllian yn ei alw'n "ddewis arall perffaith resymol" yn lle arholiadau, gan ystyried amgylchiadau eithriadol y pandemig byd-eang.  

 

Mae Ms Gwenllian yn dweud bod angen i'r Gweinidog Addysg "adennill amser a gollwyd" wrth aros am ganlyniadau dau adolygiad cyn dechrau ymgynghori â'r sector addysg. Mae Ms Gwenllian yn gofyn pam na fyddai wedi bod yn bosibl dechrau ymgynghori ym mis Medi neu'n syth ar ôl "ffiasgo arholiadau haf 2020".

 

Disgwylir cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg yn ddiweddarach heddiw (Dydd Mawrth 10 Tachwedd) wedi i ddwy wahanol gyfres o argymhellion gael eu cyhoeddi – un adolygiad annibynnol wedi'i gadeirio gan Louise Casella sy'n galw am ddefnyddio asesiadau canolfannau yn lle arholiadau, ac un adolygiad gan Gymwysterau Cymru sy'n argymell cadw "asesiadau allanol" ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yr haf nesaf.

 

Mae Ms Gwenllian hefyd wedi mynegi pryderon bod plant mewn ardaloedd difreintiedig – rydym yn gwybod ers ffiasgo arholiadau'r haf bod y rhain yn llai tebygol o berfformio'n dda mewn arholiadau – yn fwy tebygol o fod wedi colli dyddiau yn yr ysgol oherwydd cyfraddau haint uwch. Mae hi'n nodi "mae hyn yn gwneud arholiad 'yr un fath i bawb' yn llai teg fyth".

 

Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am sgrapio arholiadau haf 2021 ers mis Awst 2020.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,

 

"Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad cyflym am arholiadau haf 2021. Yr hiraf y bydd hyn yn parhau, y mwyaf o ansicrwydd y bydd yn ei achosi i'n dysgwyr. Mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes wedi dioddef llawer o darfu ar eu blwyddyn addysg, a llawer ohonynt yn dal i deimlo'r pryder sy'n dod o fyw drwy bandemig byd-eang.

 

"Wrth gwrs, bydd angen i'r Gweinidog Addysg ymgynghori â'r sector am unrhyw benderfyniad. Rwy'n pryderu y bydd effaith peidio â dechrau ymgynghori ym mis Medi – neu hyd yn oed yn syth ar ôl ffiasgo arholiadau haf 2020 – yn achosi mwy o oedi cyn yr anochel. Nid oes synnwyr mewn dal i obeithio gallu cynnal asesiadau allanol pan fo gennym ddewis arall perffaith dderbyniol – cynnal asesiadau safonedig yn lleoliad addysg y dysgwr, fel y mae'r adolygiad annibynnol yn ei argymell.

 

"Mae'n edrych yn debygol y bydd y tarfu ar y flwyddyn ysgol bresennol yn parhau i mewn i 2021. Rydym yn gwybod bod plant mewn ardaloedd lle bu llawer o achosion yn fwy tebygol o fod wedi colli dyddiau ysgol oherwydd hunanynysu, ysgolion yn cau neu eu salwch eu hunain. Rydym yn gwybod bod cyfraddau coronafeirws yn tueddu i fod yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig. Rydym hefyd yn gwybod o ffiasgo arholiadau'r haf bod plant o ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o berfformio'n dda mewn arholiadau. Os yw Llywodraeth Cymru'n mynnu parhau ag arholiadau 'addas i bawb' yn haf 2021, rydym yn creu risg o roi cosb ddwbl i blant o ardaloedd difreintiedig."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-10 10:28:18 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd