Annog pobol Arfon i brynu’n lleol y Nadolig hwn

Yn ôl AS, mae’r ystadegau ar brynu’n lleol yn “drawiadol”

Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi annog pobl Arfon i “brynu’n lleol y Nadolig hwn.”

 

Bu Siân Gwenllian AS yn Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd sir, ac mae wedi annog pobl leol i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn, gan nodi buddion economaidd ac amgylcheddol “dirifedi” prynu lleol.

 

Yn ôl yr AS;

 

“Mae siopa’n lleol yn bwysig, nid dim ond i ddiogelu hyfywedd ein strydoedd siopa, ond dyna’r peth doeth i’w wneud o berspectif economaidd ac amgylcheddol hefyd.

 

“Mae astudiaethau yn dangos bod pobl wedi troi at brynu’n lleol yn ystod y pandemig.

 

“Pe bai siopau a busnesau lleol yn elwa o newid parhaol i’n harferion siopa ar ôl Covid-19, mi fyddai pawb yn elwa.

 

“Mae’r ystadegau’n drawiadol.

 

“Am bob £1 sy’n cael ei wario mewn busnesau annibynnol, mae 63c yn aros yn yr economi leol. Yn ein trefi, pentrefi a’n dinasoedd.

 

“Mae cael ysbryd entrepreneuraidd yn ein bröydd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i gymunedau lleol. Mae busnesau lleol yn llawer mwy tebygol o werthfawrogi ein cwsmeriaeth, ac felly’n fwy na heb mae’r profiad siopa yn well, yn fwy personol.

 

“Mae hefyd yn golygu ein bod yn gwneud ein rhan i gadw'r cymunedau unigryw, annibynnol sy'n nodweddiadol o Arfon. Ac yma yng Ngwynedd mae ’na ddigon o ddewis.

 

“Cefnogi busnesau lleol ydi’r peth iawn i’w wneud yn amgylcheddol hefyd. Mae gennym gyfrifoldeb i leihau ein hôl troed carbon, a lleihau’r milltiroedd mae’n bwyd yn eu teitiho, a hynny drwy brynu gan gynhyrchwyr lleol.”

 

Mae Plaid Cymru newydd gymeradwyo Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, rhywbeth sydd, yn ôl Siân Gwenllian, yn “newyddion da i economïau lleol, Cymru.”

 

“Mae gan y Cytundeb, a basiwyd gyda chefnogaeth 94% o aelodau Plaid Cymru yn ein cynhadledd, ymrwymiadau clir i gaffael yn lleol, yn ein polisïau cinio ysgol am ddim a chynllun bwyd cymunedol blaengar

 

“Yn ogystal â hynny, mae ymrwymiad yn y Cytundeb i archwilio targedau i gynyddu caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o’r lefel presennol ac mae cynllun Arfor Plaid Cymru i hyrwyddo entrepreneuriaeth leol yn newyddion da i economïau lleol, Cymru.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-12-07 15:54:45 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd