Apêl Nadolig yn codi dros £4,500 ar gyfer prosiectau bwyd lleol

Bydd prosiectau bwyd o bob rhan o'r etholaeth yn elwa o'r arian

Mae ASau Arfon, Siân Gwenllian a Hywel Williams wedi cynnal apêl Nadolig i godi arian ar gyfer wyth prosiect bwyd yn eu hetholaeth.

 

Mae’r arian a godwyd o Apêl Nadolig Plaid Cymru Arfon eleni yn cael ei roi i Fanc Bwyd Arfon, Caernarfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd yr Orsaf, Penygroes, Porthi Dre, Caernarfon, Pantri Pesda, Bethesda, Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug a Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor.

 

Heddiw, mae Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol etholaeth Arfon wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi rhagori ar eu targed gwreiddiol ac wedi llwyddo i godi £4,765, i’w rannu rhwng y prosiectau bwyd.

 

Yn ôl Siân Gwenllian:

 

“Mae hwn yn achlysur chwerwfelys. Ni ddylem fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni 8 prosiect bwyd gwahanol wedi’u sefydlu’n weddol ddiweddar o fewn un etholaeth yn unig.

 

“Er hynny, dwi’n teimlo balchder mawr fod pobl Arfon wedi bod mor hael.

 

“Rydan ni wrth ein boddau ein bod wedi rhagori ar ein targed gwreiddiol, yn enwedig gan y bydd yr arian a godir yn cael ei rannu’n gyfartal â phrosiectau bwyd ym mhob cornel o’r etholaeth.

“Fel dw i wedi ei ddweud eisoes, dylai bodolaeth y prosiectau hyn godi cywilydd ar lywodraethau sydd wedi gorfodi blynyddoedd o lymder ariannol ar ein cymunedau.

 

“Ond hoffwn fynegi fy niolch diffuant i bawb a gyfrannodd at ein hapêl.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS, cynrychiolydd Arfon yn San Steffan:

 

“Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod troi at fanciau bwyd lleol am gymorth oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

 

“Mae costau bwyd a thanwydd cynyddol yn effeithio ar bob un ohonom, ond i deuluoedd ar yr incwm isaf mae’r argyfwng hwn gymaint yn waeth.

 

“Mae banciau bwyd a chynlluniau rhannu bwyd cymunedol ar draws Arfon yn achubiaeth i’r rhai sy’n cael trafferth ymdopi.

 

“Ac rydan ni’n ffodus iawn bod cymaint o bobl drugarog yma yn Arfon wedi ymateb mor hael i’n Hapêl Nadolig.

 

"Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2023-01-11 10:43:51 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd