Argyfwng Covid-19 yn amlygu diffyg buddsoddi yn Ysbyty Gwynedd

Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon yn honni fod yr argyfwng iechyd presennol wedi amlygu nad oes buddsoddiad digonnol wedi bod yn system llif ocsigen Ysbyty Gwynedd, ac o’r herwydd fod gwaith brys yn gorfod cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf i’w uwchraddio. Mae’r Ysbyty ymhlith chwech yn unig o ysbytai ar draws Prydain sy’n gorfod cael uwchraddiad ar frys.

Tynnodd Sian Gwenllian sylw at hyn wrth holi'r Gweindiog Iechyd Vaughan Gething. Dyma’r tro cyntaf i’r mater gael sylw cyhoeddus. Dywedd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon:

Mae'r argyfwng yma wedi dod â phroblem sylfaenol i'r amlwg yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn fy etholaeth i. Ers rhai wythnosau, dwi wedi bod yn ymwybodol bod problem wedi codi efo capasiti llif yr ocsigen yn Ysbyty Gwynedd, ac mi allai hynny, yn ei dro, gyfyngu ar allu'r ysbyty i ymdopi â'r argyfwng COVID.

SIÂN GWENLLIAN, AS DROS ARFON.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru dros Arfon fod y diffyg buddsoddiad yn yr is-adeiledd ocsigen yn ychwanegu at ei phryder fod Ysbyty Gwynedd wedi bod yn cael ei is-raddio ac yn colli gwasnaethau dros y blynyddoedd diwethaf, a bod hynny’n digwydd yn ddirgel, heb esboniad fel rhan o ymdrech i ‘ganoli’ i’r dwyrain.

Dywedodd fod “y diffyg buddsoddi yn y system ocsigen yn ychwanegol i’r ffaith fod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio is-raddio gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd yn 2015, a bod y gwasanaeth fasgiwlar wedi symud oddi yno.

Ychwanegodd Siân Gwenllian fod “datrys hyn yn cael blaenoriaeth gan y British Oxygen Company”, a’i bod yn “ddiolchgar am ymdrechion y rheolwyr lleol i sicrhau hynny.” Ond gofynodd i’r Gweinidog Iechyd “a wnewch chi gytuno â fi y dylid fod wedi buddsoddi yn y gwaith yma ers tro? Mae hi'n cymryd argyfwng i hyn ddigwydd. Ac a ydych chi'n cytuno bod hyn yn arwydd clir bod Ysbyty Gwynedd, Bangor yn cael ei israddio yn dawel fach a thrwy'r drws cefn?”

Mae'r Bwrdd Iechyd a'r Gweinidog Iechyd yn dweud nad oes cynllun is-raddio ar droed a'u bod wedi buddsoddi yn yr ysbyty ond mae Siân Gwenllian yn honni “yn anffodus, mae'r arfywng wedi tynnu sylw at ddan-fuddsoddi mewn is-adeiledd ocsigen a'r angen am weithredu cyflym iawn er mwyn delio a'r argyfwng yma.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd