Dafydd Meurig
Mae Dafydd wedi cynrychioli Abergwyngregyn, Llandygai, Llanllechid, Talybont a Thy'n y Maes fel rhan o ward Arllechwedd ers dros 10 mlynedd.
Mwy am Dafydd:
- Roedd Dafydd yn allweddol wrth sicrhau cynlluniau atal llifogydd ar gyfer Talybont a thai Tanylôn yn dilyn llifogydd mawr 2012 a 2015.
- Ar ddechrau'r pandemig, sefydlodd grŵp cefnogi Covid yn yr ardal.
- Cadeirydd Partneriaeth Ogwen.
- Sylfaenydd Ynni Ogwen.
- Llywodraethwr Ysgol Llandygai.
Blaenoriaethau Dafydd:
- Sefydlu cynllun trafnidiaeth cymunedol.
- Cydweithio efo Cyngor Gwynedd i gael mwy o dai ar gyfer teuluoedd ifanc.
- Gweithio gyda'r cyngor cymuned i ddatblygu cae chwarae Talybont ymhellach.
Mae Dafydd yn Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter