AS Caernarfon i gyfarfod Prif Swyddogion yr heddlu

AS Caernarfon i gyfarfod Prif Swyddogion yr Heddlu yn dilyn digwyddiadau.

Gweithio gyda'n gilydd yn allweddol i gael gwared ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, meddai Hywel Williams.

Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn cynnal cyfarfod lefel uchel gyda Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn pryderon dybryd am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon.

Daw’r cais am gyfarfod ar ôl i’r heddlu orfodi gorchymyn gwasgaru 48 awr yn y dref yn ddiweddar i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dilyn digwyddiad yn y KFC lleol.

Bydd Mr Williams yn pwyso ar Heddlu Gogledd Cymru ar ba gamau gweithredol sy'n cael eu cymryd i ddelio â'r sefyllfa a'r hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi ac annog pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad o'r fath.

Dywedodd Hywel Williams AS,

‘Yn gyntaf oll, mae angen i neges gref a chadarn fynd allan at y rhai dan sylw nad yw’r ymddygiad hwn yn dderbyniol.’

‘Rwyf wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Heddlu Gogledd Cymru i gyfleu fy mhryderon a phryderon cymuned ehangach Caernarfon. Mae angen sicrhau pobl leol fod mynd i’r afael â’r mater hwn yn flaenoriaeth i’r heddlu.’

‘Mae arnom angen pwysau cydunol a sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ateb tymor hir, ymarferol i’r mater dybryd hwn ac rwy’n ymwybodol bod trafodaethau cadarnhaol, aml-asiantaethol eisoes yn digwydd.’

‘Mae gwella mynediad at wasanaethau ieuenctid yn hanfodol. Rhaid i godi dyheadau pobl ifanc yn yr ardal a’u hannog i fyw bywydau di-drosedd fod yn flaenoriaeth.’

‘Tra bod llawer y gall yr heddlu ei wneud ar lawr gwlad, rhaid mynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydym am ddelio â’r broblem.’ 

‘Rydym yn ddyledus i elusennau lleol fel GISDA, sydd wedi’i leoli yng nghanol Caernarfon, sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc, ond mae’r gwaith y mae gweithwyr ieuenctid yn ei wneud wedi’i gyfyngu gan gyllid cyfyngedig.’ 

‘Mae Caernarfon yn dref brysur, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae wedi elwa o waith caled parhaus y Cyngor Tref a Hwb Caernarfon, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn hoffi gweld y ddelwedd gadarnhaol hon yn parhau.’

‘Os ydym am fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc mae angen gweithio gyda'n gilydd i wrthsefyll ymddygiad o'r fath ond yn bwysicach, edrych ar fesurau i atal hyn gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, yn enwedig gyda'r rhai sy'n agored i niwed.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd