AS Plaid Cymru yn galw ar y Trysorlys i ymestyn cymorth lles hanfodol.

 Byddai dileu cefnogaeth i’r aelwydydd tlotaf yn anfaddeuol medd Hywel Williams.  

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar y Canghellor i wneud y cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol yn barhaol, i helpu i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o syrthio ymhellach i dlodi yn sgil pandemig Covid-19.

Mae Hywel Williams eisiau i Drysorlys y DU ymestyn y codiad Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gweithio o £20 yr wythnos, a gyflwynwyd ar ddechrau'r pandemig, wrth i ffigurau o'r Adran Gwaith a Phensiynau ddatgelu cynnydd o 94% yn nifer achosion Credyd Cynhwysol yn Arfon ers mis Mawrth 2020. 

Gwrthododd y Canghellor ymrwymo i ymestyn y gefnogaeth yn ystod ei adolygiad gwariant diweddaraf. 

Dywedodd Hywel Williams AS,

‘Y rhai ar yr incwm isaf, gan gynnwys llawer sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad uniongyrchol i’r cwymp economaidd o’r pandemig, fydd yn cael eu taro galetaf os bydd y llywodraeth yn gwrthod cynnal y cynnydd yng nghyfradd Credyd Cynhwysol.’ 

‘Mae’r codiad mewn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gweithio wedi bod yn achubiaeth i lawer o fy etholwyr, gan gynnwys llawer o deuluoedd â phlant ifanc a oedd eisoes yn ei chael yn anodd fforddio’r pethau sylfaenol hyd yn oed cyn i’r pandemig daro.’ 

‘Yn rhy aml rwy’n clywed am etholwyr yn dioddef pob math o anawsterau, gyda'u sefyllfa yn gwaethygu gan effeithiau’r pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig.' 

'Byddai dileu'r cynnydd hwn mewn cefnogaeth lles ar yr amser gwaethaf posibl yn anfaddeuol.' 

'Gyda diweithdra yn cynyddu, mae tua chwe miliwn o bobl bellach yn ddibynnol ar Gredyd Cynhwysol.' 

'Efallai bod y codiad o £20 yn ymddangos fel newid mân i'r llywodraeth, ond dyma'r gwahaniaeth rhwng troi'r gwres ymlaen neu brynu bwyd i'r plant i filiynau o bobl.' 

‘Byddai’r codiad parhaol o £20 yr wythnos yn gam bach tuag at leddfu’r baich ariannol ar filoedd o bobl.' 

‘Dylai’r Llywodraeth hefyd sicrhau bod y rhai sydd ar fudd-daliadau etifeddiaeth yn derbyn codiad tebyg ac yn cynyddu haelioni nawdd cymdeithasol i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd.’ 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-01-11 16:36:31 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd