AS yn canmol ymdrechion brechu lleol ond yn 'gofyn cwestiynau'.

Mae Siân Gwenllian AS wedi canmol ymdrechion brechu lleol yn Arfon, er gwaethaf ‘rhai problemau’.  

Yn ogystal â chanmol yr ymdrechion brechu lleol, mae Siân Gwenllian wedi pwyso ar y Prif Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r rhaglen frechu leol yn etholaeth Arfon.  

   

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd rithwir yr wythnos hon, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS ymateb;  

  

“Yn Arfon, mae pob un o’r practisau gofal sylfaenol yn barod i roi’r brechlyn.   

  

“Mae un o’r tair canolfan brechu torfol yn y gogledd wedi’i lleoli ym Mangor.”  

   

Mae Siân Gwenllian wedi canmol llwyddiant yr ymdrech frechu yn lleol.  

  

“Ar y cyfan maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus er gwaethaf llu o rwystrau biwrocrataidd (ac eira) ond rydw i ar drywydd rhai problemau penodol sydd wedi cael eu dwyn i'm sylw.  

  

Dywedodd yr AS lleol dros Arfon;  

   

“Mae’r ymdrech frechu mewn meddygfeydd lleol ac yng Nghanolfan Brailsford, Bangor yn drefnus ac yn effeithiol.  

   

“Mae nawr yn hollbwysig fod pobl yn parhau’n amyneddgar, ac yn aros eu tro i gael eu galw am frechiad.  

   

“Hefyd, mae’n bwysig pwysleisio bod yn rhaid derbyn yr ail frechiad cyn bod cleifion yn ddiogel.  

   

“Rwy’n deall fod pobl yn rhwystredig, ac rwyf wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddarparu rhif cyswllt penodol ar gyfer pobl sy’n credu eu bod wedi syrthio drwy’r rhwyd.  

  

“Rwyf wedi cael ar ddeall hefyd fod rhai problemau wedi codi mewn rhannau o’r etholaeth, gan gynnwys Dyffryn Nantlle, oherwydd bod staff yn gorfod hunan-ynysu yn dilyn achosion Covid. Rwyf hefyd yn ymwybodol o broblemau gyda'r gwasanaeth post yng Nghaernarfon sy’n golygu y gall rhai llythyrau apwyntiad fod yn araf yn cyrraedd. Hoffwn sicrhau etholwyr Arfon fy mod innau a’m cyd-weithiwr Hywel Williams AS yn codi'r pryderon hyn gyda'r Post Brenhinol a gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. "  

   

Aeth Siân Gwenllian, cynrychiolydd Arfon yn y Senedd, yn ei blaen i godi pryderon ynghylch anghysondebau ymarferol, gan gyfeirio'n benodol at broblemau'n ymwneud â materion TG.  

   

Wrth annerch y Prif Weinidog, dywedodd Siân Gwenllian AS;  

   

“Dydy systemau technoleg gwybodaeth y gwahanol haenau ddim yn siarad efo'i gilydd, ac mae hyn yn creu dryswch.   

  

“Er enghraifft, dydy meddygon teulu ddim yn gallu gweld pa rai o'u cleifion nhw sydd wedi cael apwyntiad brechu i un o'r canolfannau brechu mawr, ac mi all hynny olygu bod rhai pobl yn cael dau apwyntiad a bod brechlyn gwerthfawr yn cael ei wastraffu.   

  

“Un enghraifft ydy hynny.   

  

“Fedrwch chi ffeindio a oes yna ddatrysiad cyflym i'r problemau IT yma? Maen nhw wedi dod i'm sylw i yn Arfon, ond maen nhw'n debygol o fod yn gyffredin ar draws Cymru.”  

   

Ymatebodd y Prif Weinidog gan honni  

   

“Mae pethau yn digwydd mor gyflym ac mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn trio datrys y problemau sydd wedi digwydd.  

   

“[Rydym] yn ymwybodol o'r problemau, ac mae pobl yn gweithio'n galed i drio gwella pethau.”  

   

Soniodd Siân Gwenllian am “ymdrechion arwrol yn lleol o dan amgylchiadau anodd dros ben.”  

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-01-27 16:27:17 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd