AS yn cefnogi ymgyrch #GwleddYGwanwyn

“Mae’n briodol fy mod yn cymryd rhan dair blynedd ers dechrau’r pandemig.”

Elusen gadwraeth sy’n gyfrifol am 46,000 hectar o dir, 157 milltir o arfordir a 18 o safleoedd hanesyddol yng Nghymru yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod eu prosiect diweddaraf #GwleddYGwanwyn yw darparu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â byd natur yng Nghymru.

 

I nifer o bobl, mae dyfodiad y gwanwyn yn gyfystyr â blagur ar y coed, ac mae dathliad #GwleddYGwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i ysbrydoli gan Hanami, gŵyl flynyddol yn Siapan sy’n dathlu coed ceirios.

 

Mae’r dathliad bellach ar ei drydedd flwyddyn, ac fel rhan o #GwleddYGwanwyn 2023, mae Siân Gwenllian AS wedi ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i blannu coed yng Ngardd Ffrancon, gerddi cymunedol a rhandiroedd sydd wedi’u lleoli ym Methesda yn ei hetholaeth.

 

Yn ôl Siân:

 

“Mae’n briodol iawn fy mod yn cymryd rhan mewn dathliad o fyd natur dair blynedd yn union ers dechrau’r pandemig.”

 

“I gyd-fynd â’u hymgyrch, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi amlygu ystadegau sy’n awgrymu bod 68% o bobl yn credu bod sylwi ar fyd natur wedi codi eu calonnau yn ystod y cyfnodau clo.

 

“Hefyd, mae 47% o oedolion yn honni eu bod yn fwy tebygol o dreulio amser ym myd natur ers y pandemig.

 

“Mae #GwleddyGwanwyn yn rhan o ymgyrch Natur i Bawb yr elusen, sy’n annog pobl i ymgysylltu â’r awyr agored, ac fel garddwr fy hun rwy’n ymwybodol iawn o fanteision byd natur.

 

“O les personol ein cyrff a’n meddyliau, i bwysigrwydd creu cynefinoedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt a’r rôl y mae coed yn ei chwarae wrth gyrraedd sero carbon net.

 

“Rwy’n falch iawn bod llawer iawn o’r mentrau llawr gwlad rwy’n ymweld â nhw yn Arfon yn chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2023-04-03 11:14:19 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd