AS yn galw am fwy o gefnogaeth i ddioddefwyr endometriosis

Mae Siân Gwenllian wedi cefnogi galwad Kate Laska sy’n dioddef o’r cyflwr  

Mae Siân Gwenllian AS, yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi galw am fwy o gefnogaeth i rai sy’n dioddef o Endometriosis. 

  

Clefyd yn y system atgenhedlu fenywaidd yw endometriosis.* 

  

Mae’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi cefnogi galwad un o’i hetholwyr, Kate Laska o Riwlas, am fwy o gefnogaeth i ddioddefwyr endometriosis. Yn ôl yr AS mae’r gefnogaeth sydd ar gael i ferched yng ngogledd Cymru sy’n dioddef o’r cyflwr yn “annigonol.” 

  

“Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn gyffredinol annigonol, ond mae’r diffyg gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru yn sgandal, gyda’r mwyafrif o gleifion yn gorfod teithio dros y ffin, i Ysbyty Merched Lerpwl er enghraifft. 

  

“Mae’r trafferthion sy’n codi oherwydd hyn yn niferus; oedi mewn triniaeth, pellter teithio, a diffyg gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond i enwi rhai. 

  

“Mae’r ergyd ariannol hefyd, wth gwrs. Yn aml iawn, mae’r rhai sy’n dioddef yn cael trafferth wrth geisio hawlio budd-daliadau lles, ac mae nifer o’r rhai sy’n gweithio yn wynebu problemau gyda'u cyflogwyr os ydyn nhw i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eu salwch. 

  

“Mae diffyg ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu bod merched yn methu â chwrdd â’r gofynion iechyd weithiau hefyd. 

  

“Yn dilyn llofruddiaeth erchyll David Amess AS yr wythnos ddiwethaf, mae gennym gyfle i adlewyrchu ar achos a oedd yn bwysig iawn iddo.  

  

“Roedd yn ymgyrchydd brwd dros roi cefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef o endometriosis, ac yn 2018 sefydlodd grŵp trawsbleiiol o ASau i godi ymwybyddiaeth a gwella’r gofal sydd ar gael.” 

  

Mae Kate Laska o bentref Rhiwlas yn etholaeth Siân Gwenllian yn dioddef o endometriosis, ac mae newydd gael llawdriniaeth yn Ysbyty Merched Lerpwl ac mae'n gwella gartref. 

  

Mae Kate wedi siarad yn agored am ei brwydr â’r cyflwr: 

  

“Dychmygwch fyw mewn poen corfforol am flynyddoedd. Rydach chi'n trio dod o hyd i help ond mae nhw’n dweud wrthoch chi fod y boen rydach chi'n ei deimlo yn ‘normal’. 

  

“Yn y cyfamser rydach chi'n colli'ch swydd, eich incwm a'ch partner… ar ôl newid meddyg 7 mlynedd yn ôl, o’r diwedd, cefais ddiagnosis. 

  

“Doedd gen i ddim syniad bryd hynny y byddwn yn treulio’r 7 mlynedd nesaf yn cwffio dros fy hawl i driniaeth. 

  

“Oherwydd gofal a oedd yn llai na digonnol, a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd, a chymdeithas yn gyffredinol, datblygodd fy endometriosis i’w bedwerydd cam. Roedd rhaid imi gael nifer o driniaethau cymhleth. 

  

“Mae’n anodd dod o hyd i gefnogaeth pan mae ei angen arnoch fwyaf, oherwydd mae cymdeithas yn credu ei fod yn anochel bod merched yn profi poen. 

  

“Mae merched sy’n dioddef ag endometriosis yn dioddef yn ddistaw, ac yn aml iawn mae nhw’n teimlo fel petaent ar eu pennau eu hunain, oherwydd mae’n amhosibl i unrhyw un ddychmygu eu poen. 

  

“Dim ond un clinig arbenigol sydd yng Nghymru, yng Nghaerdydd, lle mae gobaith i ferched fel fi. Fodd bynnag, mae'r clinig hwn wedi'i lethu â chleifion ar hyn o bryd. 

  

“Mae’r pwysau amser yn hanfodol gyda'r cyflwr cronig yma. Mae iechyd merched yn cyfrif. Dyma pam mae angen dybryd am wasanaeth lleol yng ngogledd Cymru.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-10-26 09:42:26 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd