AS yn galw am gynllun tymor hir i ddatrys “sgandal” Parc Bryn Cegin

Mae Siân Gwenllian wedi ymateb i’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthiant dau blot

Wrth ymateb i’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthiant dau blot ym Mharc Bryn Cegin, mae Siân Gwenllian AS wedi codi’r mater ar lawr y Senedd unwaith yn rhagor, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi “cynllun tymor hir.”

 

Mewn cyfarfod llawn o’r Senedd yr wythnos hon, gofynnodd Siân Gwenllian i Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros ogledd Cymru, ddiystyru honiadau yn y wasg fod bwriad gan Lywodraeth Cymru i werthu’r parc, neu rannau o’r parc. Ymatebodd y Gweinidog gan alw’r pennawd newyddion yn “gamarweiniol”, a bod “gwerthiant dau blot wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidog yr Economi.”

 

Ymatebodd Siân Gwenllian, gan honni bod sefyllfa Parc Bryn Cegin yn “sgandal”;

 

“Mae hi'n sgandal, onid ydy, nad oes yna'r un swydd wedi cael ei chreu yn y parc yma ar ôl bron 20 mlynedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru?

 

“Felly, a gaf i ofyn i chi, fel Gweinidog y gogledd, beth ydy'r cynllun hir dymor ar gyfer y parc yma? Ac ydy'r gwerthu'r plotiau yma yn newyddion da, neu a ydy o'n arwydd bod y Llywodraeth wedi rhoi'r ffidil yn y to yn llwyr o ran denu gwaith i'r safle pwysig yma?”

Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud bod y safle wedi’i nodi fel cyfle datblygu posib yng nghytundeb twf gogledd Cymru, a bod y Llywodraeth yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gwynedd.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-09-17 16:11:19 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd