AS yn galw ar ieuenctid Gwynedd i gamu i’r adwy yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru

Cefnogwyd ei galwad gan gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Siân Gwenllian AS wedi galw ar bobl ifanc Gwynedd i “gamu i’r adwy” yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru eleni.

 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2018, yn cynnwys 60 aelod rhwng 11 a 18 oed. Mae'r senedd yn ymfalchïo mewn bod yn gyfrwng i drafod “y pethau y mae pobl ifanc eu heisiau a'u hangen, a chodi'r materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru.”

 

Caiff 40 o’i haelodau eu hethol yn electronig gan ieuenctid Cymru, ac mae’r 20 sy’n weddill yn cael eu hethol gan “sefydliadau partner” sy’n cynnwys Barnardos Cymru a Girlguiding Cymru.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS, sy'n cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd;

 

“Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi amlygu’r rhan hanfodol y mae pobl ifanc yn ei chwarae yn ein democratiaeth.

 

“O’u gwaith brwd yn tynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu, i’w hangerdd yn ymladd yn erbyn anghyfiawnderau, fel y protestiadau yn dilyn llofruddiaeth George Floyd y llynedd.

 

“Eu dyfodol nhw rydyn ni'n ei drafod, a'u bywydau nhw sy'n cael eu heffeithio gan heriau fel yr argyfwng hinsawdd, Brexit, llymder economaidd, a'r argyfwng tai.

 

“Mae’n bwysicach nag erioed eu bod yn camu i’r adwy ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Rwy’n annog ieuenctid Arfon, Gwynedd, a Chymru i ystyried y fraint o gynrychioli eu cartrefi yn y Senedd Ieuenctid.

 

“Os oes unrhyw un yn chwilfrydig, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â mi.”

 

Cynrychiolir etholaethau Senedd Cymru yn y Senedd Ieuenctid, a than yn ddiweddar cynrychiolwyd etholaeth Siân Gwenllian, sef Arfon, gan Brengain Glyn, disgybl yn Ysgol Tryfan.

 

Cefnogodd Brengain alwad Siân Gwenllian yr wythnos hon;

 

“Mae’r Senedd Ieuenctid wedi newid fy mywyd er gwell.

 

“Roedd yn fraint cael cynrychioli etholaeth Arfon a chodi materion sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw.

 

“Yn ogystal â gweld â’m llygaid fy hun y gall lobïo a thrafod a rhoi pwysau ar y Llywodraeth wneud gwahaniaeth, rwyf hefyd wedi cael profiadau a ffrindiau y byddaf yn eu trysori am byth.

 

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n dymuno gweld newid er budd pobl ifanc Cymru i gamu i’r adwy ac ymgeisio!”

 

Mae ceisiadau i sefyll yn etholiadau mis Tachwedd bellach ar agor.

 

Gall darpar ymgeiswyr ddysgu mwy am sefyll trwy ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-08-26 16:37:04 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd