AS yn mynnu eglurder ar ‘anghysondebau’ offer amddiffyn personol

Mae Siân Gwenllian yn honni bod anghysondebau yn peri pryder i ofalwyr 

  

Mewn cyfarfod llawn o’r Senedd ddoe, mynegodd Siân Gwenllian AS bryderon ynghylch “anghysondebau” gyda chanllawiau offer amddiffyn personol (PPE.) 

  

Nododd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon “nad oes disgwyl i weithwyr gofal yn y gymuned wisgo gynau amddiffynnol, tra bod disgwyl i weithwyr iechyd mewn ysbytai wneud.” 

  

Roedd yr AS yn adleisio pryderon etholwyr eu bod yn cael eu “trin yn eilradd.” 

  

Wrth annerch Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar lawr y Senedd, dywedodd yr AS; 

  

“Mae yna nifer wedi cysylltu efo fi yn sgil pryderon eu bod nhw'n cael eu trin yn eilradd i'w cydweithwyr mewn settings clinigol am nad ydyn nhw'n gorfod gwisgo gynnau. Dyma un neges ges i: 

  

“’Pan rydan ni’n trio cadw cleifion positif allan o’r ysbyty ac amddiffyn eraill yn y gymuned, rydan ni’n cael ein hamddifadu o ddarn hanfodol o PPE’. 

  

“Fedrwch chi gadarnhau beth yn union ydy'r sefyllfa, pam fod gweithwyr yn cael eu trin yn wahanol, ac a fyddwch chi'n ailystyried? Yng ngeiriau fy etholwr i eto, dyma ddywedodd hi wrthyf i: 

  

“'Mae’r gwasanaeth gofal cymdeithasol eisoes mewn cyflwr argyfyngus. Mae lefelau recriwtio a chadw gafael ar staff gofal ar eu hisaf erioed, a dim ond gwaethygu'r sefyllfa ymhellach wnaiff y broblem hon, gan y bydd staff yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu hamddiffyn, a bydda nhw’n trio dod o hyd i gyflogaeth arall.’" 

  

Atebodd y Prif Weinidog, gan bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor “pwyllgor arbenigol.” 

  

Aeth yn ei flaen i honni; 

  

“Ond nid lawr i fi yw e, dwi'n meddwl, i fynd yn erbyn y cyngor rŷn ni'n ei gael oddi wrth bobl sydd lot fwy cyfarwydd gyda'r maes na fi. 

  

“Pan maen nhw'n dweud, 'Dyna beth sy'n addas i'r cyd-destun yna,' dyna beth rŷn ni'n ei wneud.” 

  

Yn dilyn ateb Mark Drakeford, mae Siân Gwenllian wedi cadarnhau y bydd yn ceisio eglurder ar y mater gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-09-29 09:39:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd