AS yn rhoi help llaw i gynllun bwyd lleol wrth i alw gynyddu

Mae Bwyd i Bawb Bangor wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y defnyddwyr ers ei sefydlu yn 2018

Bu Siân Gwenllian AS yn rhoi help llaw i gynllun bwyd lleol wrth i ddefnydd o gynlluniau o'r fath gynyddu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

 

Mae’r Aelod o’r Senedd yn cynrychioli etholaeth Arfon, ac mae ei swyddfa yn ninas Bangor yn gartref i gynllun Bwyd i Bawb Bangor.

 

Mae'r prosiect yn un o bron i 9,500 o elusennau a grwpiau cymunedol yn y DU sy'n derbyn cynnyrch sy’n weddill o archfarchnadoedd er mwyn ei ddosbarthu i bobl leol sydd ei angen.

 

Mae Bwyd i Bawb Bangor, a leolir yn swyddfa Plaid Cymru yn 70 Stryd Fawr Bangor yn cael ei drefnu gan gynghorwyr a gwirfoddolwyr y blaid yn y ddinas ac yn dosbarthu bwyd ar fore Sul am 10a.m. Nid oes angen i’r sawl sy’n derbyn bwyd gan y cynllun gael eu cyfeirio yno na darparu unrhyw ddogfennaeth

 

Profodd y gwasanaeth, a sefydlwyd bron i 5 mlynedd yn ôl yng Ngwanwyn 2018,  gynnydd yn y defnyddwyr yn ystod y pandemig wrth i bobl leol wynebu cyfnod economaidd heriol.

 

Mae Siân Gwenllian wedi trafod ei bore’n gwirfoddoli â’r prosiect:

 

“Roedd ciw yn ffurfio cyn inni ddechrau rhannu’r bwyd am 10 a.m.

 

“Bûm innau a Maer Plaid Cymru Bangor, y Cynghorydd Gwynant Roberts, yn didoli’r bwyd cyn mynd ati i ddosbarthu’r bwyd i’r degau o bobl a theuluoedd oedd yn y ciw y tu allan i’r swyddfa.

 

“Mae llawer o’r defnyddwyr wedi bod yn ymwelwyr cyson ers dechrau’r prosiect yn 2018. Ond mae gwirfoddolwyr yn sôn eu bod wedi gweld llawer o wynebau newydd wrth i bobl wynebu rhagor o drafferthion economaidd yn ddiweddar.

 

“Mae gan lawer o’r teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth blant o bob oed.

 

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y grwpiau hyn ledled Cymru yn dyst i deimlad cryf o ysbryd ac undod cymunedol. Mae hefyd yn arwydd ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir o ran byw’n fwy cynaliadwy a lleihau gwastraff bwyd.

 

“Serch hynny, mae’r ffaith fod teuluoedd yn dibynnu ar gynlluniau bwyd yn sgil-effaith blynyddoedd o doriadau creulon ac agenda neo-ryddfrydol sydd wedi gwneud teuluoedd ledled Cymru yn dlotach.

 

“Ers cael fy ethol am y tro cyntaf yn 2016, mae sawl prosiect fel yr un yma wedi eu sefydlu ar draws yr etholaeth.

 

“Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchiad o’r sefyllfa frawychus y cawn ein hunain ynddi, ond hoffwn ddiolch i wirfoddolwyr gweithgar Bwyd i Bawb Bangor sy’n gwneud y math hwn o waith yn ein cymunedau o ddydd i ddydd. Estynnaf fy niolch i wirfoddolwyr eraill sy’n gwneud gwaith amhrisiadwy tebyg mewn cymunedau ar draws Arfon.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-12-06 10:39:22 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd