AS yn ymweld â chlwb ar ei newydd wedd

Cwblhawyd y gwaith ar Glwb Rygbi Bethesda yn 2019

Aeth Siân Gwenllian AS a'r cynghorydd lleol Rheinallt Puw draw i'r clwb rygbi yn ddiweddar.

 

Ariannwyd y gwaith adnewyddu yn bennaf trwy werthu’r hen glwb i Grŵp Cynefin i’w droi’n dai i bobl leol, yn ogystal â grantiau a ddarparwyd yn bennaf gan y Loteri Fawr, cronfa ranbarthol Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Gwynedd.

 

Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian AS, yr Aelod o'r Senedd dros yr ardal draw i'r clwb, ynghyd â’r Cyng. Rheinallt Puw, sy'n cynrychioli ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd.

 

Dywedodd yr AS lleol;

 

“Mae'r gwaith adnewyddu wedi darparu lle a chyfleusterau hanfodol ar gyfer y gymuned, busnes a chwaraeon lleol.

 

“Mae gwaith hanfodol wedi’i wneud, gwaith sydd wedi darparu mwy o ofod a storfeydd.

 

“Roedd yn wych ymweld â'r safle, a gweld drosof fy hun y cyfleusterau gwych, sydd wir yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”

 

Ychwanegodd y cynghorydd sir Gwynedd dros Fethesda, Rheinallt Puw;

 

“Agorodd clwb newydd Bethesda ym mis Mawrth 2019, ac mae wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn adnodd cymunedol gwerthfawr i Ddyffryn Ogwen ar ôl-Covid.

 

“Rwy’n falch bod y clwb bellach yn aml-ddefnydd, ac yn ased go iawn i'r gymuned gyfan ym Methesda.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-21 11:00:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd