AS yn ymweld â chynefin adar prin yn Nyffryn Ogwen

Er gwaethaf bygythiad diweddar, mae newid ar droed i’r boblogaeth

Dewi Roberts o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Siân Gwenllian AS, Jack Slatery, Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru

Aderyn sy'n nythu ar draws gogledd Ewrop a chanolbarth Asia yw Llinos y Mynydd.

 

Yng Nghymru, mae nifer fach o Linosiaid y Mynydd yn nythu yn Eryri, ond dros sawl degawd mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol.

 

Serch hynny, mae ymdrechion yn parhau i warchod yr aderyn prin a'i gynefin. Yn ogystal, mae BTQ Cymru wedi bod yn rhoi modrwyau lliw ar yr adar er mwyn ymgyfarwyddo â’u patrwm symud.

 

Yn ddiweddar, aeth Siân Gwenllian AS draw i’r safle yn Nant Ffrancon. Hi yw’r Aelod  o’r Senedd dros yr ardal, yn ogystal â bod yn Bencapwr Rhywogaeth Llinos y Mynydd.

 

Wrth ymweld â Nant Ffrancon, dywedodd Siân Gwenllian AS;

“Er gwaetha’r ffaith bod poblogaeth Llinos y Mynydd wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd, mae’n ymddangos bod newid ar droed yn Nyffryn Ogwen, yn dilyn gweithredu gan RSPB Cymru, ffermwyr lleol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nant Ffrancon.

 

“Roedd yn hyfryd ymweld â chynefin Llinos y Mynydd yn Nant Ffrancon, a dathlu bioamrywiaeth Cymru.

 

“Roeddwn yn falch o gefnogi cynnig Plaid Cymru yn ddiweddar i ddatgan argyfwng natur a chryfhau deddfau ar gyfer natur gan gynnwys targedau. Pasiwyd y cyning ar lawr y Senedd.”

 

Aeth Siân Gwenllian draw i’r safle gyda Dewi Roberts , Prif Geidwad Y Carneddau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Jack Slatery, Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru.

 

Mynegodd Dewi Roberts ei obaith y bydd y partneriaethau gwaith yn “arwain at gynnydd sylweddol yn niferoedd yr aderyn prin hwn yn Nyffryn Ogwen.”

 

Ychwanegodd Jack Slatery;

 

“Fel rhan o gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn gweithio ar y cyd â rheolwyr tir, sefydliadau cadwraeth ac aelodau eraill o’r gymuned leol i ddarparu cynefin mwy addas ar gyfer Llinos y Mynydd, yn ogystal â chodi eu proffil.

 

“Dyma un o’r prosiectau cyffrous sy’n cael eu datblygu drwy’r cynllun hwn i warchod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-09-07 14:28:50 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd