ASau PLAID ARFON YN CROESAWU 100 O SWYDDI NEWYDD I'R ETHOLAETH.

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS wedi croesawu’r newyddion y bydd cwmni gofal iechyd Siemens Healthineers yn creu bron i 100 o swyddi newydd o safon yn Llanberis.

Bydd Siemens, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gofal iechyd a fydd yn diogelu’r 400 o swyddi presennol ac yn creu bron i gant o swyddi newydd o ansawdd uchel. Bydd Siemens Llanberis yn dod yn ganolfan weithgynhyrchu fyd-eang ar gyfer technoleg dadansoddi gwaed y cwmni a chaiff y cynhyrchion a gynhyrchir yno eu defnyddio ar draws y byd i  i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol.

 

Dywedodd Sian Gwenllian AS;

 

'Mae hyn yn newyddion gwych i'r ardal gyfan, ac i'w groesawu'n fawr yng nghanol yr holl ddiflastod economaidd presennol. Mae gan Lanberis hanes hir o arloeseddedd gan gynnwys yn y diwydiant llechi yn ogystal â phŵer trydan dŵr. Diolch yn fawr i’r Arglwydd Dafydd Wigley, Osborn Jones ac eraill a fu’n rhan o’r weledigaeth hon a ddaeth â ffatri Siemens i Lanberis dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

 

Mae'n wych gwybod bod cynhyrchion a gynhyrchir ar safle Llanberis yn cael eu defnyddio ar draws y byd i helpu i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol. Mae'r gweithlu lleol yn gwbl falch o chwarae rhan enfawr wrth helpu eraill ym mhob rhan o'r byd trwy eu gwaith beunyddiol. Llongyfarchiadau gwresog iddynt, i’r cwmni, i Lywodraeth Cymru ac i bawb fu’n rhan o’r datblygiad diweddaraf cyffrous hwn sy’n golygu bod safle Llanberis yn ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod.

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS;

'Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i Siemens ac yn nodi buddsoddiad sylweddol arall gan y cwmni yn yr economi leol, gan ddod â thua chant o swyddi medrus i'r ardal - buddsoddi a chreu cyflogaeth ar adeg pan mae ein heconomi yn mynnu cefnogaeth.' 

'Llongyfarchiadau i Siemens ar eu llwyddiant wrth wireddu eu cynlluniau. Mae'n glod i ansawdd eu gwaith fod galw mawr am eu cynnyrch.'


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-11-07 11:29:23 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd