ASau yn cyhoeddi llyfryn cymorth costau byw ar-lein

Mae'r gwleidyddion lleol yn gobeithio y bydd y llyfryn yn cyfeirio etholwyr at gymorth hanfodol

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru a San Steffan, a’r wythnos hon maent wedi cyhoeddi llyfryn gwybodaeth ar yr argyfwng costau byw.

 

Bydd y ddogfen ar-lein, sy'n cael ei chywain gan yr ASau, yn cael ei diweddaru bob wythnos i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn berthnasol a chyfredol.

 

Mae Siân Gwenllian, cynrychiolydd Arfon yn y Senedd, wedi trafod cysyniad y llyfryn:

 

“Rydym yn byw mewn cyfnod o galedi ariannol digynsail i deuluoedd ar draws Arfon a Chymru gyfan.

 

“Rydym yn deall fod pryder gwirioneddol am y gaeaf o'n blaenau, ac am y cynnydd mewn biliau a chostau byw'n gyffredinol.

 

Rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan etholwyr pryderus, ac rydym wedi penderfynu llunio llyfryn, sydd ar gael ar-lein ac, ar gais, ar bapur, i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl mewn cyfnod mor heriol.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS:

 

“Mae teuluoedd ac unigolion yn Arfon o dan bwysau aruthrol oherwydd prisiau ynni cynyddol, costau bwyd yn codi a chynnydd sylweddol mewn taliadau morgais a rhent.

 

“Weithiau, mae gwybod at bwy i droi am gymorth a chyngor yn gallu bod yn anodd.

 

“Rydym wedi llunio’r llyfryn defnyddiol hwn i gyfeirio ein hetholwyr at gymorth ac arweiniad. O gyngor ar fudd-daliadau a banciau bwyd i helpu gyda biliau - rydym wedi ymdrechu i gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl i wneud pethau’n haws i bobl.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-12-06 10:36:15 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd